Gosod Bil Cymwysterau Cymru gerbron y Cynulliad

1 Rhagfyr 2014

Erthygl gan Michael Dauncey, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cymru

Llun: o Pixabay.  Dan drwydded Creative Commons.

Llun: o Pixabay. Dan drwydded Creative Commons.

Heddiw (1 Rhagfyr 2014), mae Huw Lewis AC, y Gweinidog Addysg a Sgiliau, wedi cyflwyno deddfwriaeth i sefydlu corff cymwysterau cenedlaethol newydd o’r enw .

Bydd Bil Cymwysterau Cymru yn awr yn dechrau ei daith drwy broses ddeddfwriaethol y Cynulliad.  Os caiff ei basio, bydd y Bil yn sefydlu Cymwysterau Cymru ac yn trosglwyddo’r cyfrifoldeb am reoleiddio a sicrhau ansawdd y cymwysterau a ddyfernir yng Nghymru o Lywodraeth Cymru i’r corff newydd.

Bydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn ymgymryd â’r gwaith o graffu ar y Bil yn unol a Chyfnod 1 o broses ddeddfwriaethol y Cynulliad, ac yn ceisio barn pobol ar y ddeddf newydd arfaethedig. Mae’r pwyllgor wedi cyhoeddi galwad am dystiolaeth sy’n cau ar 16 Ionawr 2014.

Mae cymwysterau yng Nghymru yn destun llawer o newidiadau ar hyn o bryd, yn dilyn adolygiad annibynnol a gynhaliwyd gan Huw Evans, a’i adroddiad a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2012, sef yr Adolygiad o Gymwysterau ar gyfer pobl ifanc 14 i 19 oed yng Nghymru.

Mae’r diwygiadau hyn yn cynnwys ffurfiau newydd o gymwysterau TGAU a Safon Uwch / Safon UG, Bagloriaeth Cymru sydd wedi’i diwygio i  fod yn fwy trylwyr, a dull mwy strategol o ran cymwysterau galwedigaethol.

Fodd bynnag, mae Bil Cymwysterau Cymru yn ymateb yn benodol i un o argymhellion Huw Evans, sef sefydlu rheoleiddiwr annibynnol newydd.  Nid yw’r Bil yn rhoi swyddogaethau dyfarnu i Cymwysterau Cymru, ond dyna yw amcan hirdymor Llywodraeth Cymru.  Penderfynwyd gwneud hyn ar ôl i’r Gweinidog dderbyn argymhelliad yn dilyn gwaith craffu cyn deddfu y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn gynharach eleni bod angen rhagor o drafod cyn i’r corff newydd arfer swyddogaethau dyfarnu, yn ogystal â phwerau rheoleiddio.

Felly, beth y mae Bil Cymwysterau Cymru yn ei wneud? Mae’n gwneud mwy na throsglwyddo cyfrifoldebau rheoleiddio a swyddogaethau sicrhau ansawdd y Llywodraeth.  Mae’n gwneud llawer o newidiadau a fydd yn gwella’r broses o oruchwylio cymwysterau a’r system gymwysterau yn ei chyfanrwydd, yn ôl Llywodraeth Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru yn dadlau bod angen newid y system bresennol, gan dynnu sylw at bedwar o gyfyngiadau’r trefniadau presennol:

  • Nid oes un sefydliad sy’n gyfrifol yn benodol am sicrhau bod cymwysterau a’r system gymwysterau yn effeithiol.
  • Nid oes pwerau i flaenoriaethu cymwysterau ac felly canolbwyntio gwaith rheoleiddio lle y mae ei angen fwyaf.
  • Nid oes pwerau i sicrhau bod dysgwyr ledled Cymru yn dilyn yr un fersiwn o gymhwyster drwy gyfyngu hyn i un fersiwn a ddarperir gan un corff dyfarnu.
  • Nid oes digon o gapasiti o fewn y system i ddatblygu cymwysterau’n strategol. Mae hyn yn peryglu enw da cymwysterau Cymru y tu allan i Gymru.

Mae’r Bil yn rhoi dau brif nod i Cymwysterau Cymru, sydd â’r bwriad o fynd i’r afael â’r cyfyngiadau hyn, sef

  1. sicrhau bod y cymwysterau, a’r system gymwysterau yng Nghymru, yn diwallu anghenion rhesymol dysgwyr yng Nghymru yn effeithiol;
  2. hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y cymwysterau ac yn system gymwysterau Cymru.

Drwy bennu’r ddau brif nod hyn ar gyfer y sefydliad newydd, ynghyd â nifer o faterion y mae’n rhaid iddo roi sylw iddynt, bwriad Llywodraeth Cymru yw sicrhau bod gan Cymwysterau Cymru yr adnoddau sydd eu hangen i wella’r sefyllfa bresennol.   Mae Llywodraeth Cymru hefyd am allu bod yn fwy strategol o ran y cymwysterau sydd ar gael i bobl ifanc yng Nghymru.  Mae’r Bil yn caniatáu i Weinidogion, ynghyd â Cymwysterau Cymru, lunio rhestr o gymwysterau blaenoriaethol, ac o fewn hynny, categori arall o gymwysterau blaenoriaethol cyfyngedig.

Fel y mae’r enw’n ei awgrymu, bydd Cymwysterau Cymru yn gallu cyfyngu ar nifer y ffurfiau o gymhwyster cyfyngedig i gyn lleied ag un.   Dim ond i ysgolion a gynhelir y bydd hyn yn berthnasol, ac nid i ysgolion annibynnol (preifat).  Er mwyn dilyn cymhwyster TGAU Saesneg, er enghraifft, mae hyn yn golygu mai dim ond y fersiwn unigol sydd wedi’i chymeradwyo gan Cymwysterau Cymru y byddai disgybl mewn ysgol a gynhelir yn gallu ei ddilyn.

I ryw raddau, mae’r system eisoes yn symud tuag at ffurfiau penodol o gymwysterau cyffredinol fel TGAU a Safon Uwch.  Yn ddiweddar, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru mai CBAC yn unig a fyddai’n darparu’r cymhwyster TGAU newydd mewn Cymraeg, Saesneg a Mathemateg o fis Medi 2015 ymlaen, ynghyd â chymwysterau TGAU diwygiedig eraill o fis Medi 2016, yn ogystal â chymwysterau Safon Uwch / Safon UG diwygiedig.

O ystyried y graddau y mae cymwysterau’n newid yn fwy cyffredinol, mae Llywodraeth Cymru yn cynnal ymgyrch gyfathrebu, sydd â’r nod o sicrhau bod cyflogwyr, prifysgolion, dysgwyr a rhieni yn ymwybodol o’r newidiadau. Mae’r rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan newydd Cymwys am Oes’.

Ar yr amod y caiff y Bil ei basio gan y Cynulliad a’i fod yn cael Cydsyniad Brenhinol ar ôl hynny, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu y bydd Cymwysterau Cymru yn weithredol erbyn mis Medi 2015.  Bydd y sefydliad yn annibynnol ar Lywodraeth Cymru, er y bydd yn atebol iddi am ei wariant, a bydd yn rhaid iddo gyflwyno adroddiad blynyddol i’r Cynulliad Cenedlaethol ar sut y mae’n gweithio tuag at gyflawni ei brif nodau.