Dadl yn y Cynulliad ar y Bil trais ar sail rhywedd ar ei newydd wedd

25 Tachwedd 2014

Erthygl gan Hannah Johnson, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Ers ei gyflwyno ym mis Mehefin, mae’r Bil Trais ar sail Rhywedd, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) wedi wynebu cryn anawsterau ar ei hynt drwy’r Cynulliad.

Dechreuodd y broses yn 2012 pan gyhoeddwyd ymgynghoriad Papur Gwyn ar ddeddfwriaeth i ddod â thrais yn erbyn menywod i ben. Honnodd Llywodraeth Cymru fod y cynigion yn arloesol ac fe’u croesawyd gan randdeiliaid. Nod y cynigion oedd cryfhau arweinyddiaeth, gwella addysg ac ymwybyddiaeth, a chryfhau ac integreiddio gwasanaethau.

Fodd bynnag, pan gyflwynwyd y Bil yn y Cynulliad ym mis Gorffennaf, roedd yr enw wedi newid , roedd yr adran addysg wedi’i gollwng, roedd y diffiniadau wedi newid ac roedd y dyletswyddau ar awdurdodau lleol wedi dod yn rhan o’r canllawiau.   Mynegodd ymgyrchwyr eu siom yn gyhoeddus, gan ddweud nad oedd y Bil, ar ei newydd wedd, yn canolbwyntio ar brif ddioddefwyr y mathau hyn o gamdriniaeth. Roeddent hefyd yn feirniadol o’r ffaith nad oedd adran addysg ac nad oedd yr hawl i gael gwasanaethau wedi’i warantu.

Dyma brif elfennau’r Bil (fel y’i cyflwynwyd):

  •  y ddyletswydd i baratoi a chyflwyno adroddiad ar strategaethau cenedlaethol;
  •  y ddyletswydd i baratoi a chyflwyno adroddiad ar strategaethau lleol;
  • y pŵer i Weinidogion gyhoeddi canllawiau statudol a’r ddyletswydd i ddilyn y canllawiau o’r fath;
  • penodi Cynghorydd Gweinidogol ar drais ar sail rhywedd, cam-drin domestig a thrais rhywiol.

gbv welshMae Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol y Cynulliad Cenedlaethol wedi bod yn craffu ar y Bil ers mis Gorffennaf, gan ddechrau drwy gynnal sesiwn born gron gyda rhanddeiliaid. Clywodd y Pwyllgor hefyd dystiolaeth lafar gan y Gweinidog a oedd â gofal am y Bil bryd hynny, sef Lesley Griffiths AC, paneli’n cynrychioli sefydliadau plant, academyddion, sefydliadau merched a dynion, y trydydd a’r sector cyhoeddus a’r Gweinidog sydd â gofal am y Bil ar hyn o bryd, sef Leighton Andrews AC.

Daeth 90 o ddarnau o dystiolaeth ysgrifenedig i law hefyd. Er bod yr ymatebwyr a roddodd dystiolaeth ysgrifenedig a llafar yn gefnogol i ddiben a bwriad y Bil yn gyffredinol, roeddent hefyd yn pryderu’n arw am y cynnwys.

Ymatebodd y Pwyllgor yn ei adroddiad Cyfnod 1 a gyhoeddwyd ar 14 Tachwedd 2014. Er ei fod yn cefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil, gwnaeth ddeuddeg o argymhellion gan ofyn i Lywodraeth Cymru ddiwygio’r Bil drwy:

  • ei seilio ar hawliau i sicrhau bod gan ddioddefwyr hawl i ddefnyddio gwasanaethau;
  • cyfeirio at ‘drais yn erbyn menywod’ yn y Bil, er mwyn mynd i’r afael â’r hyn sydd wrth wraidd achosion o drais yn erbyn menywod       ond gan sicrhau hefyd fod dioddefwyr o ba ryw bynnag yn gallu defnyddio gwasanaethau;
  • darparu ar gyfer rhaglenni addysg orfodol ar greu perthynas iach ag eraill;
  • sefydlu safonau gofynnol ar gyfer strategaethau lleol;
  • sicrhau bod y cynghorwr yn annibynnol ar Lywodraeth Cymru a bod y pŵer ganddo neu ganddi i gynnal ymchwiliadau;
  • mabwysiadu diffiniad y Cenhedloedd Unedig o ‘drais yn erbyn menywod’ a diffiniad y Swyddfa Gartref o ‘drais a cham-drin domestig’.

Bydd y Cynulliad yn trafod adroddiad cyfnod 1 y Pwyllgor heddiw.