Gofal iechyd trawsffiniol

21 Tachwedd 2014

Erthygl gan  Philippa Watkins, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Ym mhob maes gofal iechyd, mae llif trawsffiniol sylweddol o gleifion rhwng Cymru a Lloegr. Gellir priodoli hyn i raddau helaeth i ffactorau fel cyfleustra daearyddol a diffyg darpariaeth yn ardal y claf ei hun. Mae cyfleustra daearyddol yn ffactor pwysig mewn gofal sylfaenol, lle y gall cleifion sy’n byw mewn ardaloedd ar y ffin ddewis cofrestru gyda meddyg teulu mor agos at eu cartrefi â phosibl, er nad yw hyn yn y wlad y maent yn byw ynddi o bosibl. Ym mis Hydref 2014, roedd oddeutu 15,000 o drigolion Cymru wedi’u cofrestru â meddyg teulu yn Lloegr, ac roedd oddeutu 21,000 o drigolion Lloegr wedi’u cofrestru â meddyg teulu yng Nghymru.

Llun o Flickr gan Highways Agency. Dan drwydded Creative Commons

Llun o Flickr gan Highways Agency. Dan drwydded Creative Commons

Ym maes gofal iechyd eilaidd a gofal iechyd trydyddol (arbenigol) hefyd, mae diffyg darpariaeth yn ardal y claf yn chwarae rhan fawr yn y mater. Efallai na fydd y boblogaeth sylfaen angenrheidiol mewn rhai ardaloedd i gefnogi ysbyty mawr neu ganolfan arbenigol, felly efallai y bydd angen i gleifion o’r ardaloedd hyn deithio ymhellach, gan gynnwys dros y ffin, i gael triniaeth. Derbyniwyd dros 52,000 o drigolion Cymru i un o ysbytai’r GIG yn Lloegr yn 2011-12. Yn yr un cyfnod, derbyniwyd oddeutu 11,000 o gleifion o Loegr i ysbyty GIG yng Nghymru.

Beth yw ystyr hyn i chi?

Fodd bynnag, gall ansicrwydd fod ynghylch eu sefyllfa ar gyfer y cleifion dan sylw, lle y mae gwahaniaeth polisi rhwng y GIG yng Nghymru a’r GIG yn Lloegr. Mae’r cwestiynau cyffredin yn cynnwys: a all y bobl ddewis yr ysbyty y byddant yn mynd iddo i gael triniaeth? A yw’r polisi presgripsiynau am ddim yng Nghymru yn berthnasol iddynt? Pa mor hir y dylent fod yn aros i ddechrau triniaeth?

Dewis i gleifion

Yn Lloegr, mae gan gleifion yr hawl i ddewis pa ysbyty y bydd eu meddyg teulu yn eu hanfon. Mae hyn hefyd yn berthnasol i drigolion Cymru sydd wedi’u cofrestru â meddyg teulu yn Lloegr. Mae’r hawl gyfreithiol hon yn caniatáu i gleifion ddewis o unrhyw ysbyty yn Lloegr sy’n cynnig triniaeth addas sy’n cyrraedd safonau’r GIG ac o fewn ei gostau.

Nid yw’r GIG yng Nghymru yn gweithredu system o ddewis i gleifion, ond mae’n ceisio darparu gwasanaethau yn agos at gartref y claf, pan fydd hynny’n bosibl. Nid oes gan gleifion sydd wedi’u cofrestru gyda meddyg teulu yng Nghymru hawl statudol i ddewis i ba ysbyty y cânt eu hanfon. Mae’r un peth yn wir hefyd am breswylwyr yn Lloegr sydd â’u meddyg teulu yng Nghymru.

Presgripsiynau am ddim

Caiff pob claf sydd wedi’i gofrestru gyda meddyg teulu yng Nghymru yr hawl i gael presgripsiynau am ddim, gan gynnwys preswylwyr yn Lloegr sydd â’u meddyg teulu yng Nghymru. Fodd bynnag, caiff presgripsiynau eu rhoi yn rhad ac am ddim mewn fferyllfeydd yng Nghymru yn unig. Codir tâl ar gleifion sy’n cael eu presgripsiynau y tu allan i Gymru ar y cyfraddau sy’n gymwys yn y wlad honno.

Mae cleifion o Gymru sydd â meddyg teulu yn Lloegr hefyd yn gymwys i gael presgripsiynau am ddim, ond byddai angen iddynt wneud cais am ‘gerdyn hawl’ gan eu Bwrdd Iechyd.

Gall cleifion o Gymru sy’n cael eu trin mewn ysbytai neu gan wasanaethau y tu allan i oriau yn Lloegr, ac y codir tâl arnynt am bresgripsiynau yn ôl cyfradd Lloegr, hawlio ad-daliad.

Amseroedd aros;

Bydd unrhyw berson (o Gymru neu o Loegr) sydd wedi’i gofrestru gyda meddyg teulu yng Nghymru ac a gaiff ei atgyfeirio ar gyfer profion / triniaeth yn ddarostyngedig i Amseroedd aros GIG Cymru a’r meini prawf atgyfeirio perthnasol, p’un ai a yw’n cael ei anfon i ysbyty yn Lloegr neu yng Nghymru.

Bydd unrhyw glaf sydd wedi’i gofrestru gyda meddyg teulu yn Lloegr yn ddarostyngedig i’r amseroedd aros/ meini prawf yn Lloegr os caiff ei atgyfeirio i ysbyty yn Lloegr, ac i’r safonau yng Nghymru os caiff ei atgyfeirio i ysbyty yng Nghymru.

Trefniadau comisiynu

Caiff y trefniadau ar gyfer comisiynu gofal iechyd trawsffiniol eu nodi mewn protocol rhwng Llywodraeth Cymru a Bwrdd Comisiynu’r GIG yn Lloegr. Nod y protocol yw sicrhau na fydd dim diffyg ariannol i unrhyw Fwrdd Iechyd yng Nghymru neu Grŵp Comisiynu Clinigol yn Lloegr o ddarparu gwasanaethau gofal iechyd i drigolion y wlad arall.

Ym mis Mawrth 2014, nododd y Comisiwn Silk ar ddatganoli yng Nghymru mai’r mynediad at driniaeth ar gyfer cleifion mewn ardaloedd ar y ffin oedd ei brif bryder ym maes iechyd. Roedd y Comisiwn yn datgan:

We welcome the overarching protocol that has been established by the two Governments on cross-border healthcare. However, we believe that the current arrangements should be strengthened by developing individual protocols between each border Local Health Board in Wales and neighbouring NHS Trusts in England.

We have also heard evidence that there is scope for the Welsh and English health services to work more closely together to develop better joint strategies in relation to, for instance, highly specialist services and maximising joint efficiency savings. This is something clearly in the interest of patients.

Yn San Steffan, mae Pwyllgor Materion Cymreig Tŷ’r Cyffredin wedi cyhoeddi ymchwiliad i’r trefniadau gofal iechyd trawsffiniol rhwng Cymru a Lloegr, sy’n dilyn ei ymchwiliad yn 2009.