Iawndal twbercwlosis buchol: beth mae’r ffigurau diweddara yn ei ddweud wrthon ni?

12 Tachwedd 2014

Erthygl gan Katy Orford, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Ar 28 Ionawr 2014, lansiodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad ar gyflwyno system tabl prisio ar gyfer iawndal twberculosis buchol (TBb), tebyg i’r dull sydd yn cael ei ddefnyddio yn Lloegr. Daeth hyn yn dilyn cyngor gan y Comisiwn Ewropeaidd, a welodd fod prisiadau anifeiliaid yng Nghymru yn llawer uwch o’u cymharu â Lloegr, ac nad oedden nhw’n adlewyrchu prisiau’r farchnad ar gyfer gwartheg.

Byddai’r system tabl prisio yma wedi disodli’r system o brisio’n unigol ar y fferm. Yn dilyn dadansoddiad o’r adborth i’r ymgynghoriad, a phryderon a godwyd gan randdeiliaid, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fis diwethaf na fyddai’n cyflwyno system o’r fath yng Nghymru, ond y byddai’n parhau a’r system gyfredol gyda rhai gwelliannau, fel mwy o graffu a chapio taliadau.

Bwriad y blog-bost hwn yw edrych ar fformiwla gyfredol iawndal TBb, yr ystadegau iawndal TBb diweddaraf ar gyfer Cymru, a’r newidiadau fydd yn cael eu cyflwyno i’r system yn sgil y cyhoeddiad diweddar.

Cyfrifo taliadau iawndal TB

Ar Lywodraeth Cymru y mae’r cyfrifoldeb am gostau sy’n ymwneud â iawndal TBb. Amlinellir y dull o gyfrifo tâl iawndal yng Ngorchymyn Twbercwlosis (Cymru) 2010 (y Gorchymyn). Mae gwerth anifail a laddwyd wedi ei seilio ar system o brisio unigol ar y fferm, yn unol a’r fformiwla a roddir yn Erthygl 26 y Gorchymun:

A x B = C

A yw pris marchnad yr anifail;

B yw’r ffigwr a ddarperir ym mharagraffau 3-6 (Erthygl 26) y Gorchymun, ac mae’n amrywio yn ôl yr amgylchiadau;

C yw’r pris a delir mewn iawndal.

Tueddiadau mewn taliadau iawndal TBb

bTB compensation cy

Ffigur 1. Iawndal TBb a dalwyd i ffermwyr yng Nghymru bob blwyddyn ariannol. *data hyd at 30 Medi 2014. Ffynhonnell: System Gyllid Llywodraeth Cymru.

Bu cynnydd cyson mewn taliadau iawndal i ffermwyr gwartheg rhwng blynyddoedd ariannol 1999-2000 a 2008-2009 (Ffigur 1). Cyrhaeddodd taliadau iawndal eu huchafbwynt o £24 miliwn yn ystod 2008-2009; cynnydd o 1739% ers 1999-2000. O 1999-2000 hyd at y flwyddyn ariannol bresennol (hyd at 30 Medi 2014) cafodd cyfanswm o bron i £177 miliwn ei wario ar iawndal TBb.

Mae iawndal sy’n cael ei dalu am anifeiliaid pedigri i’w weld yn mynd a chyfran sylweddol o’r gost. Mae 60% o’r iawndal wedi ei roi amdanyn nhw, tra eu bod i gyfri am 30% o’r holl anifeiliaid.

Yn fwy diweddar, mae gostyngiad wedi bod yn iawndal blynyddol TBb a dalwyd (Ffigur 1) gyda £11.8 miliwn wedi ei wario yn y flwyddyn ariannol ddiwetha. Mae hyn yn adlewyrchiad o’r gostyngiad mewn achosion o TBb yng Nghymru. O fis Awst 2013 hyd at fis Gorffennaf 2014, cafodd 826 o achosion newydd eu cofnodi mewn buchesau yng Nghymru. Mae hyn yn cymharu â 969 achos o fis Awst 2012 hyd at fis Gorffennaf 2013 (gostyngiad o 15%). Rhwng mis Chwefror a Mis Mehefin eleni, gwelwyd y nifer isaf o achosion newydd i’w cofnodi mewn buchesau yng Nghymru yn unrhyw un o’r misoedd yma yn olynol ers 2008.

System ddiwygiedig ar gyfer iawndal TBb

Yn ei ymgynghoriad, cynigiodd Llywodraeth Cymru y dylid pennu iawndal anifeiliaid oedd wedi eu lladd trwy dabl prisio, yn seiliedig ar brisiau marchnad cyfartalog y categorïau gwartheg oedd eisoes wedi eu pennu.

Serch hynny, yn dilyn dadansoddiad o’r ymateb, penderfynodd Llywodraeth Cymru beidio a mabwysiadu’r system tabl prisio, oherwydd pryderon y byddai’n gorbrisio anifeiliaid o ansawdd is, a thanbrisio anifeiliaid o ansawdd uwch. Penderfynwyd y gallai dull hybrid fod yn anodd i’w weithredu ac y gallai achosi dryswch yn ogystal â bod yn anghyson. Felly, bydd y system bresennol o brisio’n unigol ar y fferm yn parhau, ond gyda rhai gwelliannau.

Bydd y gwelliannau yma yn cynnwys system lle bydd pob achos o brisio anifeilaid pedigri gwerth dros £3,000 yn cael ei graffu. Y taliad uchaf posibl am anifail unigol fydd £15,000 er mwyn gwella sefydlogrwydd ariannol y system iawndal TBb a sicrhau prisiadau cyson.

Yn ei datganiad llafar, nododd y Dirprwy Weinidog Amaeth a Bwyd fod Llywodraeth Cymru – pan yn ystyried opsiynau ar gyfer system iawndal newydd – yn ceisio cael system fyddai’n:

digolledu ffermwyr yn deg am golli eu gwartheg; osgoi talu iawndal TB ar gyfraddau uwch na 100% o werth yr anifail; sicrhau bod y mecanwaith prisio’n gost-effeithiol ac yn gynaliadwy yn ariannol i Lywodraeth Cymru; a sicrhau bod taliadau iawndal yn cymell ffermwyr i gymryd rhan yn effeithiol mewn mesurau atal TB.