Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd – y drydedd rownd

10 Tachwedd 2014

Erthygl gan Ben Stokes, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Llun: o Flikr gan Xavier Häpe. Dan drwydded Creative Commons

Llun: o Flikr gan Xavier Häpe. Dan drwydded Creative Commons

Ddydd Mawrth y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth yn gwneud datganiad i’r Cyfarfod Llawn i roi’r wybodaeth ddiweddaraf am Raglenni’r Cronfeydd Strwythurol a Buddsoddi Ewropeaidd ar gyfer 2014-2020.

Yr wythnos diwethaf cymeradwyodd y Comisiwn Ewropeaidd Cytundeb Partneriaeth y DU, sef dogfen sydd dros 400 o dudalennau o hyd sy’n nodi sut y caiff y Cronfeydd Strwythurol a Buddsoddi Ewropeaidd eu defnyddio ledled y DU rhwng 2014 a 2020. Mae’r Comisiwn Ewropeaidd wedi cadarnhau bod y dyraniadau i Gymru ar gyfer y cyfnod rhwng 2014 a 2020 yn dod i gyfanswm o tua £2 biliwn – gyda £1.6 biliwn yn mynd i Orllewin Cymru a’r Cymoedd a dros £325 miliwn i Ddwyrain Cymru.

Dyma’r trydydd tro i Orllewin Cymru a’r Cymoedd fod yn gymwys i gael y lefel uchaf o gymorth drwy’r Cronfeydd Strwythurol, sydd ar gael i ranbarthau ‘llai datblygedig’ yr Undeb Ewropeaidd – rhanbarthau lle y mae’r cynnyrch domestig gros fesul y pen yn llai na 75% o’r cyfartaledd ar gyfer y UE. Cernyw ac Ynysoedd Scilly yw’r unig ranbarth arall o’r DU i’w gynnwys yn y categori ‘llai datblygedig’ am y trydydd tro.

Bymtheg mlynedd yn ôl, pan benderfynwyd am y tro cyntaf fod Gorllewin Cymru a’r Cymoedd yn gymwys i gael cyllid Amcan 1, fe’i gwelwyd gan rai fel cyfle unwaith mewn cenhedlaeth i wella economi’r rhanbarth, ac efallai y gellir deall pam fod rhai o’r farn honno ar y pryd. Rhwng 2000 a 2006, cafodd Cymru £1.6 biliwn mewn cyllid strwythurol a rannwyd rhwng bron 3,000 o brosiectau unigol.

Pan benderfynwyd yn 2007-2013 fod Gorllewin Cymru a’r Cymoedd yn gymwys ar gyfer y Rhaglen Gydgyfeirio, sef olynydd Amcan 1, gwnaeth Llywodraeth Cymru ddewis bendant i ariannu llai o brosiectau a chanolbwyntio ar brosiectau mwy o faint a mwy strategol o gymharu â’r rownd flaenorol. Hyd yma, mae Cymru wedi cael £1.9 biliwn o gyllid Ewropeaidd yn ystod rownd 2007-2013, a ddyranwyd i 289 o brosiectau.

Mae Cytundeb Partneriaeth y DU yn nodi y bydd Llywodraeth Cymru, yn ystod rownd 2014-2020, yn parhau i sicrhau bod ei Rhaglenni’n canolbwyntio ar ymyriadau sydd wedi’u targedu hyd yn oed yn fwy. Amser a ddengys beth y mae hyn yn ei olygu’n ymarferol o ran maint a nifer y prosiectau a gaiff eu cynorthwyo.

Mae’r Cytundeb Partneriaeth hefyd yn nodi’r canlynol:

The central aim for the new Programmes will be to create an environment which will support economic growth and jobs. Interventions will take account of the evidence base, current regional policy and practice, research findings and the views of partners and stakeholders in Wales. This approach will guarantee Wales gains the best possible results for its investments.”

Er mai Cytundeb Partneriaeth y DU (a’r bennod ynghylch Cymru a geir ynddo) sy’n pennu’r strategaeth lefel uchel, y Rhaglenni Gweithredol sy’n cynnwys y manylion. Yr wythnos diwethaf, dywedodd y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth ei bod yn disgwyl i Raglenni Gweithredol Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a Chronfa Gymdeithasol Ewrop ar gyfer Gorllewin Cymru a’r Cymoedd a Dwyrain Cymru gael eu cymeradwyo gan y Comisiwn Ewropeaidd yn fuan iawn.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud datganiad yn flaenorol mai’r cyfnod rhwng 2014 a 2020 “ddylai fod yr achlysur olaf lle dylai unrhyw ran o Gymru gymhwyso i gael y lefel uchaf o gymorth Cronfeydd Strwythurol’. Mae hynny’n dibynnu i ryw raddau ar y ffordd y caiff y cyllid ei ddefnyddio yng Nghymru dros y chwe blynedd nesaf, a’r graddau y gall Llywodraeth Cymru a’i phartneriaid lwyddo i sicrhau’r effaith economaidd fwyaf bosibl. Fodd bynnag, gellir dadlau bod y cyd-destun economaidd ehangach yn debygol o gael mwy o effaith ar benderfyniadau ynghylch cymhwysedd yn y dyfodol.

Y naill ffordd neu’r llall, cynnwys y Rhaglenni Gweithredol yw’r allwedd i ddatgloi potensial economaidd y cronfeydd strwythurol, ac yn y pendraw, caiff Llywodraeth Cymru ei barnu ar sail y broses o roi’r Rhaglenni hynny ar waith.