Bil Galw Aelodau Seneddol yn ôl 2014-15

10 Tachwedd 2014

Erthygl gan Alys Thomas, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Llun: o Pixabay.  Dan drwydded Creative Commons

Llun: o Pixabay. Dan drwydded Creative Commons

Cafodd y Bil Galw Aelodau Seneddol yn Ôl 2014-15 (“y Bil”) ei Ail Ddarlleniad yn Nhŷ’r Cyffredin ar 21 Hydref 2014. Mae hanes lliwgar i’r Bil ers cyflwyno’r Bil Drafft ym mis Rhagfyr 2011 a’r gwaith craffu cyn deddfu arno gan Bwyllgor Diwygio Cyfansoddiadol a Gwleidyddol Tŷ’r Cyffredin. Dyma’r casgliad yn adroddiad y Pwyllgor a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2012:

‘We do not believe that there is a gap in the House’s disciplinary procedures which needs to be filled by the introduction of recall. The House already has the power to expel Members who are guilty of serious wrongdoing. This should be regarded as an active option; rather than a theoretical possibility.’

Cyhoeddwyd y Bil yn Araith y Frenhines 2014. Ei nod yw galluogi pleidleiswyr i sbarduno is-etholiad os gwelir bod Aelod Seneddol wedi camymddwyn yn ddifrifol.

Mae’r Bil yn nodi proses lle byddai Aelod Seneddol yn colli ei sedd yn Nhŷ’r Cyffredin o ganlyniad i ddeiseb galw yn ôl llwyddiannus, a fyddai’n sbarduno is-etholiad. Nid yw’r Bil yn atal yr Aelod Seneddol sydd wedi colli ei sedd rhag sefyll fel ymgeisydd yn yr is-etholiad.

Byddai dau amod ar gyfer agor deiseb galw yn ôl:

  • Os yw Aelod Seneddol yn cael ei euogfarnu yn y Deyrnas Unedig o drosedd ac yn derbyn dedfryd o 12 mis neu lai o garchar (mae Aelodau Seneddol yn cael eu diarddel yn awtomatig am ddedfryd o fwy na 12 mis).
  • Os yw Tŷ’r Cyffredin yn gwahardd Aelod Seneddol am gyfnod sydd o leiaf 21 diwrnod eistedd, neu, os nad yw’r cyfnod yn cael ei nodi fel nifer penodol o ddiwrnodau eistedd, am gyfnod sydd o leiaf 28 diwrnod.

Penderfyniad Pwyllgor Safonau a Breintiau Tŷ‘r Cyffredin yw gwahardd Aelodau Seneddol o Dŷ’r Cyffredin, ac mae’r pwyllgor hwnnw’n cynnwys Aelodau Seneddol yn bennaf. Mae pryderon bod cynllun y Llywodraeth yn rhoi gormod o rym yn nwylo seneddwyr – yn hytrach na’r cyhoedd – i benderfynu ar ffawd Aelodau Seneddol.

Pan fydd un o’r amodau galw yn ôl wedi’i fodloni, bydd Llefarydd Tŷ’r Cyffredin yn hysbysu swyddog deisebau etholaeth yr Aelod Seneddol, a fydd yna’n agor deiseb galw yn ôl. Byddai pleidleiswyr cymwys yn yr etholaeth honno yn cael cyfle i arwyddo’r ddeiseb dros gyfnod o wyth wythnos.

Byddai deiseb galw yn ôl yn llwyddiannus pe bai’n cael ei llofnodi gan o leiaf 10% o’r pleidleiswyr cofrestredig yn yr etholaeth honno. Byddai deiseb lwyddiannus yn golygu bod sedd yr Aelod Seneddol yn dod yn wag ac yn arwain at gynnal is-etholiad.

Yn ystod yr Ail Ddarlleniad, dywedodd Greg Clark AS, y Gweinidog Gwladol yn Swyddfa’r Cabinet:

‘Some will say that the Bill still gives MPs too great a role in triggering recall, but we want to ensure that it complements the disciplinary procedures that already exist and the work of the independent commissioner and the Standards Committee. It is a long-standing principle of our political system that Parliament has sole jurisdiction over its own affairs and is free to operate without interference from the courts, the Crown or any other individual or body.[…]

[…] The Government do not wish to impose how the House chooses to govern its affairs and have drafted the Bill accordingly. That principle is of great importance to our parliamentary democracy, and it seems to me that we should exhaust all other avenues before casually setting it aside.’

Mae’r cynigion ar gyfer galw Aelodau Seneddol yn ôl, ac ni fyddent yn berthnasol i Senedd yr Alban, Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Chynulliad Gogledd Iwerddon. Fodd bynnag, gofynnodd Jonathan Edwards AS:

Jonathan Edwards (Carmarthen East and Dinefwr) (PC): What discussions has the Minister had with the devolved Governments about using the Bill to empower the devolved institutions, if they so wish, to introduce their own recall mechanism?

Greg Clark: I think I have made it clear that the Bill is not the last word on recall. It will apply specifically to Members of Parliament and it will govern simply the procedures of the House. It has been difficult enough to establish a consensus in this House, let alone in the devolved Administrations and beyond.

Mae mwy na 70 o Aelodau Seneddol o bob plaid wedi mynegi cefnogaeth ar gyfer Bil preifat wedi’i noddi gan Zac Goldsmith AS sy’n cynnig y byddai Aelodau Seneddol yn wynebu refferendwm i’w galw yn ôl os byddai 5 y cant o bleidleiswyr mewn etholaeth yn arwyddo “hysbysiad o fwriad i alw yn ôl” ac 20 y cant yna’n arwyddo “deiseb galw yn ôl”. Nododd Mr Goldsmith y byddai ei gynigion yn eithrio’r Pwyllgor Safonau a Breintiau o’r broses ac yn cryfhau grym y cyhoedd. Cafodd y gwelliannau a gyflwynwyd yn Ail Ddarlleniad Bil Llywodraeth y DU i wneud y newidiadau hyn eu gwrthod.

Mae beirniaid cynigion Mr Goldsmith yn dadlau y byddai’n annog pobl i ddechrau’r broses galw yn ôl am unrhyw reswm, nid dim ond oherwydd camymddwyn, ac y byddai’r broses hefyd yn agored i’w chamddefnyddio drwy fuddiannau ariannol.

Mae Bil Llywodraeth y DU ar hyn o bryd yn y Cyfnod Pwyllgor yn Nhŷ’r Cyffredin.