Cyllido cyffuriau yn y GIG

5 Tachwedd 2014

Erthygl gan Philippa Watkins, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn ystod y drafodaeth ddwys ym myd gwleidyddiaeth ac yn y cyfryngau yn ddiweddar ynghylch perfformiad y GIG yng Nghymru ac yn Lloegr, mae Llywodraeth Cymru wedi amddiffyn ei hanes o ran mynediad at driniaethau canser.

Llun: Dan drwydded Creative Commons.

Llun: Dan drwydded Creative Commons.

Mae Cronfa Gyffuriau Canser Lloegr, a sefydlwyd yn 2010, yn rhoi arian yn rheolaidd i dalu am nifer o feddyginiaethau canser nad ydynt ar gael ar y GIG. Hefyd, mae’r Gronfa yn cael ceisiadau am feddyginiaethau i drin unigolion sydd â mathau prin o ganser. Bydd y Gronfa yn rhedeg tan ddiwedd mis Mawrth 2016.

Ddechrau 2013, lansiodd Llywodraeth yr Alban gronfa gwerth £21 miliwn i dalu am feddyginiaethau i gleifion unigol â chyflyrau prin. Nid oedd y meddyginiaethau hyn ar gael ar bresgripsiwn fel mater o drefn. Ym mis Hydref 2013, cyhoeddodd yr Alban y byddai’n ymestyn y Gronfa Cyffuriau Cyflyrau Prin tan 2016.

Mae Llywodraeth Cymru, dro ar ôl tro, wedi gwrthod y galwadau am gronfa debyg yng Nghymru, gan ddadlau bod mwy yn cael ei wario’r pen ar driniaethau canser yng Nghymru nag yn Lloegr, ac nad yw Cronfa Cyffuriau Canser Lloegr wedi cyflymu mynediad at feddyginiaethau newydd a chost effeithiol ar gyfer canser o’i gymharu â Chymru. Mae’r Gweinidog Iechyd wedi amlygu mai Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i gynnig y cyffur sglerosis ymledol Sativex ar y GIG, ac mai Cymru yw’r unig ran o’r DU lle mae’r cyffur canser y pancreas newydd Abraxane yn cael ei ariannu fel mater o drefn gan y GIG. Mae Prif Weinidog Cymru hefyd wedi datgan:

… rydym yn gwybod nawr nad yw’r gronfa cyffuriau canser yn ddim mwy na thwyll. Byddaf yn egluro pam rwy’n dweud hynny. O’r rhai sy’n gwneud cais am gyllid i’r gronfa cyffuriau canser, mae mwy na 70% yn cael eu gwrthod. O ran y gronfa gyfatebol yng Nghymru, y ceisiadau cyllido cleifion unigol, sy’n agored i bobl â phob cyflwr, nid yn unig y rhai sy’n dioddef o ganser, derbynnir mwy na hanner y ceisiadau.

Adolygiad o’r broses ceisiadau cyllido cleifion unigol (IPFR)

Os nad yw meddyginiaeth arbennig wedi cael ei hargymell gan NICE neu’r Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan (AWMSG) at ddefnydd cyffredinol yn y GIG yng Nghymru, gall clinigydd anfon cais cyllido claf unigol at y Bwrdd Iechyd. Caiff y ceisiadau hyn eu hystyried ar sail ‘eithriadoldeb‘. Cyhoeddwyd polisi IPFR Cymru gyfan yn 2011, gyda’r nod o sicrhau dull cyson o ran gwneud penderfyniadau.

Fodd bynnag, mae beirniadaeth barhaus wedi bod o’r broses IPFR. Clywodd Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Cynulliad yn ei ymholiad diweddar i weithredu Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser Llywodraeth Cymru fod amrywiaeth o ran y dehongliad o ‘eithriadoldeb’, bod diffyg hyblygrwydd i ymateb i garfannau o gleifion sy’n ceisio mynediad at driniaethau newydd, bod parodrwydd yn anghyson ymysg clinigwyr i ymgysylltu â’r broses a bod anghysondeb o ran y penderfyniadau a wneir gan baneli IPFR lleol.

Ym mis Hydref 2013, cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd adolygiad o’r broses Ceisiadau Cyllido Cleifion Unigol (IPFR). Daeth yr adolygiad i’r casgliad bod y broses IPFR yn cefnogi gwneud penderfyniadau rhesymol sy’n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer technolegau meddygol a thechnolegau nad ydynt yn feddygol nad ydynt ar gael fel mater o drefn yng Nghymru. Gwnaeth nifer o argymhellion ar gyfer cryfhau’r broses, ond nid oedd yn argymell creu un panel IPFR Cymru gyfan. Mae’r Gweinidog wedi nodi y bydd cyhoeddiad am ganlyniad yr adolygiad IPFR yn cael ei wneud yn fuan.

Roedd adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar y cynllun cyflawni ar gyfer canser (Hydref 2014) yn argymell y dylid sefydlu panel IPFR cenedlaethol er mwyn sicrhau cysondeb a thegwch ledled Cymru. Disgwylir ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor yn fuan.

Adolygiad o feddyginiaethau amddifad a thra amddifad

Ym mis Mai 2013, comisiynodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol adolygiad o’r gwerthusiad o feddyginiaethau amddifad a thra amddifad yng Nghymru. Defnyddir y meddyginiaethau hyn i drin cyflyrau iechyd prin a hynod brin.

Roedd yr adolygiad yn argymell peidio â sefydlu cronfa ar wahân ar gyfer meddyginiaethau amddifad a thra amddifad yng Nghymru, ac y dylai’r gwaith o werthuso’r meddyginiaethau hyn barhau’n rhan o fframwaith y Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan.

Nododd yr Adolygiad bod angen symleiddio’r llwybrau mynediad at feddyginiaethau amddifad a thra amddifad, a gwnaeth nifer o argymhellion mewn perthynas â’r broses arfarnu, y meini prawf a ddefnyddir i asesu, a sicrhau mynediad cyfartal. Nodwyd y canlynol:

Ni ellir cael sicrwydd y bydd yr holl feddyginiaethau a gymeradwywyd i’w defnyddio yn Lloegr yn cael eu cymeradwyo ar gyfer eu defnyddio yng Nghymru. Gall gwahanol ddulliau ledled y DU arwain at wahaniaeth yn yr argymhellion. Mae’n fwy pwysig bod tegwch a chyfiawnder ledled Cymru.