Bwrw Mlaen – i’r cyfeiriad cywir er budd y Gymraeg?

05 Tachwedd 2014

Erthygl gan Rhys Iorwerth, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Blog-Rhys-cyYm mis Chwefror 2012, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru strategaeth newydd sbon er mwyn ceisio cynyddu nifer y bobl sy’n siarad ac yn defnyddio’r Gymraeg. Roedd Iaith fyw: iaith byw yn strategaeth bum mlynedd ac yn disodli’r strategaeth Iaith Pawb a oedd wedi bodoli ers 2003.

Cyn i 2012 ddirwyn i ben, fodd bynnag, dechreuodd canlyniadau cyntaf Cyfrifiad 2011 ddod i’r amlwg. Roedd y rheini’n dangos bod canran y bobl a allai siarad Cymraeg yng Nghymru wedi gostwng o 20.8% yn 2001 i 19% yn 2011.

Ychydig fisoedd yn unig oedd ers cyhoeddi Iaith fyw: iaith byw, ond roedd yn glir fod Llywodraeth Cymru yn teimlo bod angen iddi ymateb i ffigurau’r Cyfrifiad. Fe wnaeth hi hynny trwy gynnal yr hyn a alwodd yn ‘Gynhadledd Fawr’ ym mis Gorffennaf 2013. Diben y digwyddiad hwn oedd ‘chwilio am syniadau ymarferol i gynyddu nifer y bobl sy’n defnyddio’r Gymraeg a gweld y Gymraeg yn ffynnu yng Nghymru’.

Yn ogystal â’r Gynhadledd Fawr, mae nifer o baneli adolygu neu grwpiau gorchwyl a gomisiynwyd gan y Llywodraeth yn y maes wedi cyhoeddi’u hadroddiadau dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae’r rhain yn cynnwys:

Penllanw’r cyfan o’r uchod oedd cyhoeddi, ar 6 Awst 2014, y ddogfen bolisi Bwrw Mlaen, sy’n ymestyniad i bob pwrpas ar Iaith fyw: iaith byw. Bwriad Bwrw Mlaen yw llywio’r modd y mae’r Llywodraeth yn gweithio ym maes y Gymraeg dros y tair blynedd nesaf, gan ganolbwyntio ar bedair prif thema:

  • Yr angen i gryfhau’r berthynas rhwng yr economi a’r Gymraeg;
  • Yr angen am well cynllunio strategol o ran y Gymraeg;
  • Sut mae’r iaith yn cael ei defnyddio mewn cymunedau;
  • Newid ymddygiad ieithyddol.

Yn ôl Bwrw Mlaen, bydd hyn yn golygu buddsoddiadau amrywiol, gan gynnwys:

  • Hyd at £400,000 ar brosiectau sy’n rhoi cymorth i fusnesau;
  • Cronfa o £1.25 miliwn ar gyfer ‘canolfannau a gofodau dysgu’ (mae £1 miliwn arall newydd ei gyhoeddi tuag at hyn yn 2015-16);
  • £1.2 miliwn yn ychwanegol i gryfhau’r Gymraeg yn y gymuned dros y ddwy flynedd nesaf, gan gynnwys £750,000 i’r Mentrau Iaith;
  • Cronfa o £250,000 y flwyddyn tan 2015-2016 ar gyfer datblygiadau technolegol.

Law yn llaw â hyn, mae ymgyrchoedd eisoes ar y gweill gan y Llywodraeth (fel ymgyrch y ‘Pethau Bychain’) i newid patrymau ymddygiad ieithyddol.

Fodd bynnag, daeth hi’n glir mai nad arian newydd yw llawer o’r uchod, a bod y Llywodraeth wedi penderfynu ailflaenoriaethu a thocio mewn mannau eraill yng nghyllideb y Gymraeg er mwyn canolbwyntio ar yr hyn sydd wedi’i amlinellu yn Bwrw Mlaen.

Er enghraifft, mae’r £1.2 miliwn i gryfhau’r iaith yn y gymuned wedi’i sicrhau trwy dorri’n sylweddol ar gyllideb y rhaglen Cymraeg i Oedolion. At hynny, bydd cyllideb Comisiynydd y Gymraeg yn gostwng 8% yn 2015-16 (ar ôl gostwng 10% yn 2014-15), tra bo toriadau nodedig hefyd wedi’u gwneud i’r gyllideb Cymraeg mewn addysg.

Ar 23 Hydref 2014, bu Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol y Cynulliad yn craffu ar gyllideb ddrafft (2015-16) y Llywodraeth ar gyfer y Gymraeg. Yn y cyfarfod hwnnw, cyfaddefodd y Prif Weinidog ei bod yn ‘amlwg o’r ffigurau’ fod gostyngiad cyffredinol wedi bod yn y gyllideb ar gyfer yr iaith.

Yn ei thystiolaeth ar y gyllideb ddrafft, mae Cymdeithas yr Iaith yn cyhuddo’r Llywodraeth o ‘anwybyddu ei hymgynghoriad ei hun’ yn y cyd-destun hwn, gan ddatgan mai un o’r negeseuon pwysicaf i ddeillio o’r Gynhadledd Fawr oedd yr angen i gynyddu gwariant ar yr iaith er mwyn diogelu’i dyfodol. Mae’r Gymdeithas hefyd yn hynod feirniadol o’r hyn y mae’n ei ddisgrifio fel ‘tanfuddsoddi difrifol’ yng ngwariant prif-ffrwd y Llywodraeth ar y Gymraeg, ac yn cyhuddo’r Llywodraeth o ddiffyg ‘strategaeth ariannol gall’ ar gyfer yr iaith ac o wneud penderfyniadau ‘byrbwyll’.

Cwestiwn arall sy’n codi, wrth gwrs, yw i ba raddau y gall y Llywodraeth gyfiawnhau’r ailflaenoriaethu sydd wedi bod yn sgil Bwrw Mlaen. Amddiffynnodd y Prif Weinidog ei benderfyniadau gerbron y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol trwy honni bod yn rhaid canolbwyntio ymdrechion ar bobl ifanc a sicrhau bod y genhedlaeth nesaf o bobl yn siarad yr iaith yn ein cymunedau. Ers y cyfarfod ar 23 Hydref, mae’r Pwyllgor wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog gyda’i gasgliadau yn hyn o beth.

Mae llythyr y Pwyllgor yn tynnu sylw penodol at yr hyn a ddywedodd Comisiynydd y Gymraeg wrth y Pwyllgor yn ddiweddarach yr un diwrnod, sef bod angen sicrhau bod unrhyw benderfyniadau strategol, cyllidebol neu bolisi sy’n ymwneud â’r iaith yn seiliedig ar dystiolaeth gadarn a dealltwriaeth glir o effeithiau posibl y penderfyniadau hynny.

Casgliad y Pwyllgor oedd y byddai ‘wedi hoffi cael gwybodaeth fanylach am y dystiolaeth’ a ddefnyddiwyd gan y Llywodraeth wrth ailflaenoriaethu ei chyllidebau. Mae’r Pwyllgor hefyd wedi gofyn am gael mwy o fanylion am yr union ganlyniadau y mae’r Llywodraeth yn disgwyl eu gweld yn deillio o’r ailflaenoriaethu hwn.

Mae llythyr y Pwyllgor yn trafod nifer o faterion eraill a godwyd yn ystod y cyfarfod ar 23 Hydref, gan gynnwys gwariant ar y Gymraeg mewn cyllidebau prif-ffrwd; asesiadau o effaith gwariant ar y Gymraeg; cyllideb Comisiynydd y Gymraeg; y gyllideb ar gyfer y Gymraeg mewn addysg; a’r Bil Cynllunio.

Yn ogystal â’r newid cyfeiriad sy’n cael sylw uchod, mae disgwyl datblygiadau pellach ym mis Mawrth 2015 wrth i’r set gyntaf o Safonau ddod i rym o dan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (gweler y cofnod blog yma am ragor o fanylion am hyn). Mae’n gwestiwn arall, wrth gwrs, a fydd y cyfan yn arwain at unrhyw gynnydd cyfatebol yn nifer y siaradwyr Cymraeg.