A oes digon o Aelodau Cynulliad?

21 Hydref 2014

Erthygl gan Steve Boyce, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Sara Rees, Gwasanaeth Cyfieithu a Chofnodi Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Style: "DEP 26:04:09 16"

Mae’r ddadl ar 13 Hydref yn Nhŷ’r Arglwyddi ar gapasiti’r Cynulliad wedi codi’r cwestiwn unwaith eto ynghylch a oes digon o Aelodau Cynulliad i graffu’n effeithiol ar Lywodraeth Cymru. Cynigiodd yr Arglwydd Rowe-Beddoe o’r meinciau croes welliant i Fil Cymru, i’r perwyl y dylid cael o leiaf 80 Aelod Cynulliad. Honnwyd i’r achos dros gael Cynulliad mwy gael ei gryfhau ymhellach gan y pwerau newydd y bydd y Bil yn eu darparu. Er hyn, cydnabuwyd mai ychydig o awydd sydd ymhlith y cyhoedd i gael rhagor o wleidyddion ar hyn o bryd. Tynnwyd y gwelliant yn ôl yn dilyn y ddadl.

Mae papur diweddar a gyhoeddwyd gan y prosiect DG: Undeb sy’n Newid, hefyd yn cyflwyno dadl dros Gynulliad mwy. Mae’r papur yn nodi’r pwysau ar Aelodau sydd â llwyth gwaith trwm o ran pwyllgorau, y pwysau ar gymdeithas sifil a’r sector cyhoeddus yng Nghymru i gefnogi gwaith deddfwriaethol a chraffu’r Cynulliad, ac effaith materion yn ymwneud â chapasiti o ran ymgysylltu’n ehangach â’r cyhoedd.

Gyda phwerau deddfu llawn a rhagor o ddatganoli cyllidol a deddfwriaethol ar y gorwel, y ddadl yn aml yw y bydd gofyn am ragor o waith craffu, yn enwedig gwaith craffu ariannol gan y Cynulliad Cenedlaethol er mwyn iddo ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif yn effeithiol. Bu’r mater yn destun trafod bron ers dechrau datganoli gyda Chomisiwn Richard yn 2004, ymhlith eraill, yn argymell cynyddu’r gallu i graffu a nifer yr Aelodau, ac adroddiad y Panel Adolygu Annibynnol yn 2009 yn nodi’r angen i wella capasiti strategol. Mae wedi dod i’r amlwg unwaith eto mewn ymateb i’r argymhellion a wnaed gan gomisiwn Silk yn rhannau 1 a 2 o’i waith ac yn y dadleuon yn San Steffan ar Fil Cymru. Mae’r rhain wedi rhoi’r mater o sut y bydd y Cynulliad yn gweithredu ar ôl datganoli unrhyw bwerau ychwanegol dan y chwyddwydr.

Mae awduron y papur yn gweld bod maint y Cynulliad yn sylfaenol i’w allu i graffu ac maent yn cymharu nifer yr Aelodau â’r nifer yn Senedd yr Alban a Chynulliad Gogledd Iwerddon (129 a 108 yn ôl eu trefn). Maent hefyd yn cyfaddef nad oes consensws ar y mater hwn ac felly ehangu’r drafodaeth i wneud argymhellion eraill ynghylch adnoddau allanol y gellid eu defnyddio i wella gwaith craffu.

Fodd bynnag, nid oes unrhyw fath o gonsensws ar yr angen am newid nac ym mha ffordd y dylid newid. Cred rhai nad oes angen newid strwythur y Cynulliad na nifer yr Aelodau a etholir, a bod ganddo ddigon o gapasiti i gyflawni’r newidiadau a gynigir ym Mil Cymru. Bu hyn yn arbennig o amlwg yn rhai o’r dadleuon seneddol ar Fil Cymru yn San Steffan, lle mae Aelodau Seneddol y gwrthbleidiau a’r rheini sy’n perthyn i bleidiau’r Llywodraeth wedi mynegi pryder am unrhyw estyniad arfaethedig i bwerau a maint y Cynulliad.

I’r gwrthwyneb, yn ôl tystiolaeth i Gomisiwn Silk, yn enwedig gan sefydliadau’r gymdeithas sifil yng Nghymru, cyflwynwyd dadl dros Gynulliad mwy. Mynegwyd cefnogaeth i Gynulliad estynedig hefyd yn nadleuon y Cyfarfod Llawn yn y Cynulliad yn aml gyda galwadau am ailasesu nifer y gwleidyddion yng Nghymru ar bob lefel o lywodraeth.

A refferendwm yr Alban bellach wedi rhoi’r lle blaenaf i ddatganoli, mae’n amlwg y bydd y materion hyn yn parhau i gael eu trafod, hyd yn oed os bydd yr hinsawdd wleidyddol yn golygu bod unrhyw newidiadau sylweddol i gapasiti’r Cynulliad yn annhebygol o ddigwydd yn y dyfodol agos.