Adolygiad o dirweddau dynodedig Cymru: Parciau Cenedlaethol ac Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol

17 Hydref 2014

Erthygl gan Katy Orford, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Delwedd Flickr gan David Evans. Trwyddedwyd o dan Creative Commons.

Delwedd Flickr gan David Evans. Trwyddedwyd o dan Creative Commons.

Yr wythnos diwethaf, lansiodd y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, Carl Sargeant, adolygiad o dirweddau dynodedig Cymru. Mae tua 20 y cant o dir Cymru yn dirweddau dynodedig – Parciau Cenedlaethol ac Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol.

Parciau Cenedlaethol

Mae tri o Barciau Cenedlaethol yng Nghymru:

Cafodd Parciau Cenedlaethol, a ddynodir o dan Ddeddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949, eu creu i warchod a gwella harddwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol rhai o dirweddau harddaf y DU. Mae Adran 5 o’r Ddeddf yn gosod dyletswydd ar Gyfoeth Naturiol Cymru i ddynodi unrhyw ddarn eang o dir yng Nghymru, sydd â harddwch naturiol amlwg a chyfleoedd i ymgymryd â gweithgareddau hamdden awyr agored, yn Barc Cenedlaethol.

Awdurdodau Parciau Cenedlaethol sy’n rheoli holl barciau cenedlaethol Cymru. Yng Nghymru, o dan adran 5 (1) o’r Ddeddf, mae gan Awdurdodau Parciau Cenedlaethol ddau ddiben statudol:

  • Gwarchod a gwella harddwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol eu hardaloedd; a
  • Hyrwyddo cyfleoedd i’r cyhoedd ddeall a mwynhau nodweddion arbennig eu hardaloedd.

Os bydd gwrthdaro rhwng y ddau ddiben statudol hyn, rhaid i’r Awdurdod Parc Cenedlaethol roi blaenoriaeth i warchod a gwella harddwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol yr ardal, yn unol ag Egwyddor Sandford’.

Mae Awdurdodau Parciau Cenedlaethol yn cynnwys aelodau pwyllgor a benodir o blith aelodau awdurdodau lleol a chan Lywodraeth Cymru. Mae’r rhan fwyaf o aelodau’r Awdurdodau’n cynnwys aelodau etholedig awdurdoadau lleol o fewn ffiniau’r Parc Cenedlaethol. Caiff pob Awdurdod grant gan Lywodraeth Cymru.

Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol

Mae tirweddau dynodedig hefyd yn cynnwys Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) ac mae pump o’r rhain yng Nghymru.

Mae Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol yn wahanol i’r Parciau Cenedlaethol gan nad oes diben statudol iddynt hyrwyddo cyfleoedd i’r cyhoedd fwynhau a deall yr ardal.

Yn wreiddiol roedd y pŵer i ddynodi AHNE wedi’i gynnwys yn Neddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949 ond cafodd hyn ei addasu gan Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000. O dan adran 82 o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000, gall Cyfoeth Naturiol Cymru ddynodi unrhyw ardal yng Nghymru (nad yw’n Barc Cenedlaethol) yn AHNE os yw’r ardal mor eithriadol o hardd yn naturiol, dylid ei gwarchod a’i gwella.

Mae Partneriaethau AHNE i’w cael ym mhob AHNE a gaiff ei harwain gan awdurdodau lleol sy’n penodi swyddogion i oruchwylio’r gwaith rheoli. Bydd pwyllgor o randdeiliaid, fel tirfeddianwyr, asiantaethau statudol a chynghorau cymuned, hefyd yn helpu i reoli’r AHNE.

Mae gan ddynodiad AHNE yr un statws o safbwynt cynllunio â Pharc Cenedlaethol, ond tra bod Parc Cenedlaethol yn gyfrifol am ei swyddogaethau cynllunio’i hun yr awdurdod cynllunio lleol perthnasol sy’n gyfrifol am hyn yn achos AHNE.

Adolygu

Wrth lansio’r adolygiad, tynnodd y Gweinidog sylw at y ffaith bod yr amseriad mor addas gan fod deng mlynedd ar hugain bron ers i ddibenion statudol y Parciau Cenedlaethol a’r Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol gael eu nodi am y tro cyntaf mewn deddfwriaeth. Dywedodd fod angen cynnal yr adolygiad er mwyn cydymffurfio â datblygiadau economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol. Dywedodd:

Hoffwn petai’n tirweddau dynodedig yn datblygu’n enghreifftiau rhyngwladol o gynaliadwyedd, yn dirluniau byw ac ynddynt gymunedau gwledig cryf a bywiog, cyfleoedd hamdden awyr agored, ecosystemau ffyniannus a bioamrywiaeth gyfoethog.

Caiff yr adolygiad ei gynnal gan banel annibynnol dan gadeiryddiaeth yr Athro Terry Marsden o Brifysgol Caerdydd. Bydd dau gam i’r adolygiad:

  1. Edrych ar y dynodiadau eu hunain gan ystyried pwrpas y tirweddau hyn a manteision rhoi tirweddau dynodedig Cymru i gyd o dan yr un dynodiad.
  2. Adolygu trefniadau llywodraethu a rheoli tirweddau dynodedig. Mae hyn yn cynnwys ystyried argymhellion y Comisiwn ar Lywodraethu a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus; i Barciau Cenedlaethol werthuso a deall yn well ai’r dynodiadau, y dibenion, y trefniadau rheoli a llywodraethau presennol yw’r ffordd orau o ymdrin â’r heriau presennol a heriau’r dyfodol. Bydd yn ystyried y Bil Cynllunio (Cymru) o ran y trefniadau cynllunio mewn Parciau Cenedlaethol.

Bydd y panel adolygu’n awr yn dechrau casglu tystiolaeth gan randdeiliaid, cymunedau o fewn tirweddau dynodedig a’r cyhoedd yn gyffredinol.

Os hoffech ragor o wybodaeth am dirweddau dynodedig, ewch i’n Hysbysiad Hwylus am Barciau Cenedlaethol ac Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol yng Nghymru.