Goresgyniad y ffromlys chwarennog yng Nghymru

8 Hydref 2014

Erthygl gan Jack Goode, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Data’r ffromlys chwarennog hyd at 2014

Rhywogaeth chwyn oresgynnol yw’r ffromlys chwarennog ac mae i’w weld yn fwyfwy cyffredin ar hyd afonydd a dyfrffyrdd Cymru. Er iddo gael i gyflwyno gyntaf ym 1839 fel planhigyn rhad i’w blannu yn lle tegeiriannau a oedd yn cael eu tyfu’n gonfensiynol, dechreuodd ledaenu’n gyflym ledled y DU. Mae’n llwyddo i dyfu’n eithriadol o gyflym gan deithio ar hyd basn afonydd. Caiff yr hadau eu lledaenu mewn ffordd arbennig o effeithiol wrth i’r bwlb ffrwydro gan wasgaru’r hadau’n eang. Mae’r ffromlys hefyd yn defnyddio peillwyr i ledaenu gan ei fod yn cynhyrchu llawer iawn o neithdar sy’n denu rhywogaethau peillwyr oddi wrth blanhigion brodorol eraill. Mae’r ffromlys hefyd yn tyfu’n arbennig o dda os yw afonydd a llynnoedd wedi’u hewtroffeiddio, ac mae hynny’n broblem mewn rhai ecosystemau yng Nghymru. Bydd yr holl ffactorau hyn yn cyfuno i roi mantais gystadleuol i’r ffromlys dros rywogaethau brodorol gan gadarnhau ei fod yn rhywogaeth oresgynnol gref.

Yng Nghymru, mae twf y ffromlys chwarennog yn creu cymaint o broblem nes bod ecosystemau brodorol yn cael eu tanseilio. Mae data cyfredol (ffig 1) yn dangos i ba raddau y mae’r ffromlys chwarennog wedi ymledu yng Nghymru. Yn ogystal â dihysbyddu adnoddau o’r ecosystem, mae’r ffromlys hefyd yn erydu glannau afonydd; pan fydd yn marw yn yr hydref, bydd yn gadael y pridd yn agored i’r tywydd ac mae’n dadsefydlogi glannau’r afonydd. Yn 2013 dywedodd Swyddfa Ryngwladol Amaethyddol y Gymanwlad, asiantaeth ymchwil rhynglywodraethol, eu bod yn amcangyfrif bod £300 miliwn yn cael ei wario bob blwyddyn ar reoli’r ffromlys chwarennog yn y DU, yn ogystal â chostau anuniongyrchol sy’n gysylltiedig ag erydu, a rheoli dŵr. Mae twf y ffromlys chwarennog hefyd wedi arwain at ostyngiad sylweddol mewn pryfed cop, chwilod a rhywogaethau pryfed eraill.

Er mwyn rheoli ymlediad y ffromlys chwarennog mae rhai awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr wedi trefnu “ymgyrchoedd i ladd y ffromlys” pan gaiff ystodau mawr o’r

ffromlys eu torri a chaiff y gwreiddiau eu dinistrio rhag iddynt aildyfu. Er bod hyn yn effeithiol iawn yn y tymor byr, mae Asiantaeth yr Amgylchedd Lloegr yn amau a fydd yr effaith yn parhau yn y tymor hir gan fod perygl y caiff hadau eu gwasgaru drachefn oherwydd y broses. Hefyd, maen bosibl y bydd y broses yn gadael tir heb ei drin yn fwy agored i blanhigion goresgynnol eraill fel canglwm Japan, er nad yw maint y broblem hon yn amlwg ar hyn o bryd. Dull arall sydd i’w weld yn llwyddo yn yr ymdrech i reoli’r ffromlys yw lleihau ewtroffeiddio a sicrhau nad yw cynefinoedd ar lannau afonydd yn hybu twf y ffromlys chwarennog.

Gwnaed gwaith ymchwil ar wyth o safleoedd yng Nghymru i fonitro dosbarthiad y chwynnyn hwn, ei effaith ar yr ecosystemau brodorol a’r arfer gorau ar gyfer ei rwystro rhag lledaenu. Un ardal o ddiddordeb penodol yng Nghymru yw afon Ystwyth, lle mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi bod yn ymdrechu’n ddygn i gael gwared ar y ffromlys chwarennog a gwrthdroi effeithiau’r rhywogaeth oresgynnol hon. Roedd pedwar Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ar hyd afon Ystwyth a oedd yn golygu bod hon yn ardal arbennig o bwysig i’w gwarchod rhag goresgyniad y ffromlys. I gael gwared ar y ffromlys, roedd yn rhaid tynnu pob mymryn o’r planhigion a’r gwraidd o’r pridd. Roedd hwn yn waith hynod o lafurus. Yna roedd angen gadael gweddillion y planhigion i sicrhau eu bod yn marw cyn eu symud o’r safle. Felly, er bod y prosiect ar hyd afon Ystwyth wedi dechrau yn 2009, erbyn mis Medi 2013 dim ond dwy ran o dair o’r ardal arfaethedig a oedd wedi’i drin.

I osgoi’r broses hirfaith hon, mae gwaith ymchwil wedi’i gynnal i’r ffromlys chwarennog a’i

amgylchfyd brodorol ym mynyddoedd Himalaya i gael hyd i ddulliau o’i reoli. O ganlyniad i’r astudiaethau hyn, darganfuwyd Puccinia komarovii, ffwng rhwd naturiol ac un o barasitiaid y planhigyn; mae’n arafu twf y ffromlys ac yn lleihau ei fantais gystadleuol dros rywogaethau brodorol. Cadarnhawyd ei bod yn ddiogel defnyddio’r parasit hwn drwy gynnal profion gydag amrywiaeth eang o rywogaethau brodorol i weld a fyddai’r ffwng yn effeithio arnynt. Ychydig iawn o sgil-effeithiau a gafwyd. Yna, cynhaliwyd treialon yn Berkshire Cernyw a Middlesex a chafwyd canlyniadau addawol; ers hynny, mae DEFRA wedi cynnal ymgynghoriad ynghylch rhyddhau’r ffwng a daethpwyd i’r casgliad ei bod yn ddiogel gwneud hynny.