Y Bil Sector Amaethyddol (Cymru): Dyfarniad y Goruchaf Lys

21 Gorffennaf 2014

Erthygl gan Alys Thomas, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Ar 9 Gorffennaf 2014, gwnaeth y Goruchaf Lys ei ddyfarniad ar y Bil Sector Amaethyddol (Cymru) a gafodd ei gyfeirio ato gan y Twrnai Cyffredinol, y Gwir Anrhydeddus Dominic Grieve QC AS, o dan adran 112 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Roedd yn credu bod darpariaethau’r Bil mewn cysylltiad â materion cyflogaeth y tu allan i gymhwysedd y Cynulliad. Cynhaliwyd y gwrandawiad ar 17 a 18 Chwefror 2014, a chafodd ei ddisgrifio mewn nodyn blog blaenorol. Dyfarniad unfrydol y Bil oedd ei fod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad.

Yn y dyfarniad, nododd y llys eto yr egwyddorion canlynol, a amlinellodd yn y dyfarniad blaenorol ar Fil Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru), a gafodd ei fabwysiadu wrth ddehongli Deddf Llywodraeth Cymru:

  • rhaid penderfynu ar y cwestiwn o ran a yw darpariaeth y tu allan i gymhwysedd y Cynulliad yn unol â’r rheolau yn adran 108 ac Atodlen 7;
  • ni ellir cymryd disgrifiad Deddf Llywodraeth Cymru fel Deddf o bwys cyfansoddiadol mawr, ynddo’i hun, fel canllaw i’w ddehongli. Rhaid i’r statud gael ei ddehongli yn yr un ffordd ag unrhyw statud arall; ac
  • os bydd angen help o ran beth yw ystyr y geiriau, mae’n briodol ystyried y diben y tu ôl i Ddeddf Llywodraeth Cymru, sef i gyflawni setliad cyfansoddiadol.

Nododd y llys y cwestiwn allweddol o ran a yw’r Bil yn ymwneud ag “Amaethyddiaeth”. Roedd y llys yn glir nad yw amaethyddiaeth yn cyfeirio’n unig at drin y tir neu fagu da byw, ond y dylid ei ddeall yn y synnwyr ehangach i gwmpasu’r diwydiant neu weithgarwch economaidd amaethyddiaeth ym mhob agwedd arno, gan gynnwys elfennau busnes a cyfansoddiadol eraill y diwydiant hwnnw.

Roedd y llys wedi dyfarnu’n flaenorol bod “cyfeirio at” yn nodi “mwy na chysylltiad llac neu ganlyniadol”. Mae’r mater o ran a yw darpariaeth yn ymwneud â phwnc i’w bennu o dan adran 108(7) o Ddeddf Llywodraeth Cymru “drwy gyfeirio at ddiben y ddarpariaeth, gan ystyried (ymysg pethau eraill) ei effaith ym mhob un o’r amgylchiadau.” Yn ôl y dyfarniad:

Mae’n ymddangos o’r broses gyfansoddiadol a arweiniwyd at y Bil mai ei ddiben oedd i reoleiddio cyflogau amaethyddol fel y gellir cefnogi a diogelu’r diwydiant amaethyddol yng Nghymru. Mae effeithiau cyfreithiol ac ymarferol y Bil yn gyson â’r diben hwnnw. Ei ddiben ac effaith yw sefydlu gweithdrefn statudol ar gyfer rheoleiddio cyflogau amaethyddol a thelerau ac amodau eraill cyflogaeth o fewn y diwydiant amaethyddol yng Nghymru. Diben ac effaith gweithdrefn o’r fath yw gweithredu ar weithgarwch economaidd amaethyddiaeth drwy hyrwyddo a diogelu’r diwydiant amaethyddol yng Nghymru.

Nododd y llys nad yw cyflogaeth a chysylltiadau diwydiannol wedi’u manylu yn eithriadau. Er bod rhai agweddau ar gyflogaeth a chydnabyddiaeth wedi’u pennu yn eithriadau, “mae hynny’n awgrymu nad oedd bwriad i greu cyfyngiad mwy cyffredinol ar gymhwysedd deddfwriaethol”.

Gwnaeth y Prif Weinidog ddatganiad yn y Cyfarfod Llawn lle dywedodd:

Mae’n ddyfarniad pwysig yn yr ystyr hwn. O fy nealltwriaeth ohono, yr hyn y mae’n ei ddweud yw nad oes rhaid i’r Cynulliad ddangos bod deddfwriaeth arfaethedig yn gyfan gwbl o fewn maes wedi’i ddatganoli er mwyn iddo gael cymhwysedd deddfwriaethol cyn belled â’i bod wedi’i chynnwys yn un o’r meysydd a nodir yn Atodlen 7. Felly, fel y dywedodd y Goruchaf Lys yn y dyfarniad, mae’n bosibl dadlau bod cyflogau amaethyddol yn perthyn i faes amaethyddiaeth neu’n wir, i faes cyfraith cyflogaeth. Yr hyn roedd y Goruchaf Lys i’w weld yn awgrymu oedd ei fod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad cyn belled ag y gellir ei gynnwys ​​o fewn Atodlen 7 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Nid oes rhaid iddo fod yn gyfan gwbl o fewn cymhwysedd deddfwriaethol wedi’i ddatganoli er mwyn iddo fod o fewn cymhwysedd y Cynulliad.

Dywedodd Theodore Huckle QC, y Cwnsler Cyffredinol, wrth ateb cwestiynau yn y Cyfarfod Llawn ar yr un diwrnod, “Rwy’n meddwl fod hwn yn benderfyniad pwysig iawn gan ei fod yn cadarnhau ehangder y setliad datganoli hyd yn oed ar ei ffurf bresennol”.