Llwybr Arfordir Cymru: Dwy Flynedd yn Ddiweddarach

16 Mai 2014

Erthygl gan Gareth Jenkins, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Photo by Gareth Jenkins

Photo by Gareth Jenkins

Mae Llwybr Arfordir Cymru yn sicrhau bod gan gerddwyr fynediad i arfordir Cymru gyfan (dynodir 85 y cant o’r arfordir hwn yn fannau o bwysigrwydd amgylcheddol). Yn ddiweddar, dathlwyd dwy flynedd ers agor y llwybr mewn digwyddiad a gynhaliwyd ar draeth Southerndown ym Mro Morgannwg. Mae llwybr yr arfordir, sy’n 870 milltir o hyd, yn cysylltu Queensferry yn Sir y Fflint â Chas-gwent yn Sir Fynwy. Mae cynlluniau presennol, fel Llwybr Cenedlaethol Arfordir Penfro, Arfordir Treftadaeth Morgannwg a Llwybr Arfordirol Ynys Môn, wedi’u cysylltu gan ddarn newydd sy’n 50 milltir o hyd ac sydd â mynediad cyhoeddus. Yn sgîl agor y llwybr, Cymru oedd y wlad gyntaf yn y byd i gael llwybr cyhoeddus di-dor o amgylch ei harfordir cyfan. Cafodd y wlad ei chynnwys ar frig rhestr y Lonely Planet o’r Deg Rhanbarth Orau yn 2012, ochr yn ochr â lleoliadau twristiaeth a gydnabyddir yn fyd-eang fel Kenya a Sisili. Mae’r ystadegau a ddarparwyd gan wefan y llwybr yn dangos y cynhaliwyd 152,000 o ymweliadau i’r wefan swyddogol, gan gynnwys mwy na 1,000 o ymweliadau, fesul gwlad, o Unol Daliaethau America, yr Almaen, Canada, yr Iseldiroedd ac Awstralia.

Ym mis Tachwedd 2013, comisiynodd Llwybr Arfordir Cymru adroddiad i ddadansoddi effaith economaidd y llwybr. Mae’r adroddiad yn cynnwys data a oedd ar gael hyd at fis Medi 2013. Mae’n datgan bod 2.8 miliwn o ymwelwyr wedi defnyddio’r llwybr mewn rhyw ffordd yn ystod y cyfnod hwnnw. Er bod dros hanner y rheiny yn ymwelwyr dydd a oedd wedi teithio o gartref, roedd dros draean o ymwelwyr wedi defnyddio’r llwybr fel rhan o wyliau hirach.

Amcangyfrifir mai’r darn sydd wedi’i leoli ym Mhen-y-bont ar Ogwr a ddenodd y nifer fwyaf o ymwelwyr (666,625 o ymweliadau), ac mai’r darn sydd wedi’i leoli yng Nghonwy a ddenodd y nifer lleiaf (3,456 o ymweliadau). Casgliad yr adroddiad yw bod Llwybr Arfordir Cymru wedi cynhyrchu buddion economaidd gwerth £32.3 miliwn i Gymru, gan ragori ar y targed o £10.54 miliwn. Yn ogystal, mae’r llwybr wedi creu 815 o swyddi llawn/rhan-amser drwy wariant cyfalaf cychwynnol, sydd wedi arwain at 41 o swyddi (sy’n cyfateb i 28.2 o weithwyr llawn-amser) a gefnogir gan Lwybr Arfordir Cymru. Mae’r adroddiad yn amcangyfrif bod hyn wedi creu lefel o gyflogaeth sy’n cyfateb i 715 o flynyddoedd person.

Fodd bynnag, mae’r llwybr wedi wynebu heriau yn ddiweddar o ganlyniad i’r patrymau tywydd eithafol a darodd Prydain y gaeaf hwn. Gwelwyd rhai o’r stormydd gwaethaf mewn 20 mlynedd. Cafodd y tywydd hwnnw, a oedd yn anarferol o ddifrifol, effaith benodol ar arfordir Cymru, gan achosi difrod sylweddol ym Mae Ceredigion. O ganlyniad, bu nifer o ymyriadau a gwyriadau mewn perthynas â llwybr yr arfordir. Cyhoeddodd Cyfoeth Naturiol Cymru adroddiadau ym mis Chwefror ac ym mis Ebrill 2014 a amlinellodd y difrod a ddioddefwyd mewn dros 70 o leoliadau ar y llwybr (gweler y ffigur isod). Amcangyfrifir fod costau atgyweirio o £340,000 hyd yma. Mae rhannau o’r llwybr wedi cael eu dargyfeirio a/neu eu cau yn Sir y Fflint, Sir Ddinbych, Conwy, Ynys Môn, Gwynedd, Ceredigion, Sir Gaerfyrddin, Abertawe a Phen-y-bont ar Ogwr.

WCP pic

Mewn ymateb i ddifrod y stormydd, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd yn darparu cyllid gwerth £545,000 i awdurdodau lleol arfordirol yn benodol er mwyn iddynt allu atgyweirio difrod i Lwybr Arfordir Cymru a achoswyd gan y stormydd. Daw hyn ar ben y £1.15 miliwn a fuddsoddwyd yn 2013/14 at ddibenion cynnal a chadw cyffredinol. Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi hyd at £2 filiwn y flwyddyn yn y llwybr rhwng 2007 a 2013. Ategwyd yr arian hwn rhwng 2009 a 2013 gan £3.9 miliwn o Gronfeydd Datblygu Rhanbarthol Ewrop.