Cyfarwyddebau Caffael Cyhoeddus Newydd: beth sydd yn hyn i Gymru?

16 May 2014

Erthygl gan Robin Wilkinson, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

robin_blog pic

Llun: o Flickr gan images_of_money. Dan drwydded Creative Commons.

Caffael cyhoeddus yw’r broses lle mae sefydliadau sy’n gwario arian cyhoeddus (a elwir yn “awdurdodau contractio”) yn prynu nwyddau, gwasanaethau a gwaith. Yn yr Undeb Ewropeaidd, Cyfarwyddebau UE gyfan sy’n llywodraethu’r broses hon. Mae Llywodraeth y DU yn gweithredu’r Cyfarwyddebau hyn drwy Reoliadau sy’n berthnasol i Gymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Yna, mae gan Lywodraeth Cymru gyfrifoldeb dros roi cyngor ac arweiniad ynghylch sut y dylai sefydliadau yn y sector cyhoeddus yng Nghymru gynnal eu gweithgareddau caffael, ac mae’n gwneud hynny drwy ei hadran Gwerth Cymru .

Ar ôl proses ddeddfwriaethol hir a ddechreuodd ym mis Rhagfyr 2011, cytunodd Cyngor yr Undeb Ewropeaidd o’r diwedd ar dair Gyfarwyddeb ynghylch caffel cyhoeddusar 11 Ionawr 2014. Nawr, mae’n rhaid i Aelod-wladwriaethau weithredu’r Cyfarwyddebau o fewn dwy flynedd, er bod Llywodraeth y DU wedi datgan ei bod yn bwriadu eu rhoi ar waith erbyn 28 Hydref 2014 er mwyn gwneud y gorau o fanteision y drefn gaffael newydd.

Trafodwyd y Cyfarwyddebau newydd yn fanwl gan Grŵp Gorchwyl a Gorffen Pwyllgor Menter a Busnes y Cynulliad yn gynnar yn 2012, yn fuan ar ôl i’r Comisiwn Ewropeaidd eu cyhoeddi’n wreiddiol ar ffurf drafft. Gwnaeth adroddiad y Grŵp yn sgil hynny nifer o argymhellion ynghylch sut y dylid moderneiddio’r Cyfarwyddebau orau o safbwynt Cymreig, yn ogystal ag adlewyrchu’r sefyllfa sydd ohoni o ran caffael cyhoeddus yn fwy cyffredinol yng Nghymru.

Roedd y Grŵp yn cefnogi trywydd cyffredinol y Cyfarwyddebau drafft, a oedd yn adlewyrchu dymuniad y Comisiwn Ewropeaidd i weld gweithdrefnau caffael symlach a mwy hyblyg i awdurdodau contractio lleol ac i roi mynediad haws i gwmnïau, yn enwedig busnesau bach a chanolig. Yn fras, mae’r ffocws hwn wedi ei gadw yn y Cyfarwyddebau y cytunwyd arnynt, sy’n cynnwys mesurau fel:

  • Caiff awdurdodau contractio eu hannog i rannu contractau i lotiau llai, ac i roi esboniad lle nad yw hyn yn cael ei wneud, er mwyn annog busnesau bach a chanolig i wneud cais am y contractau llai hyn;
  • Caiff isafsymiau gofynion trosiant eu cyfyngu i ddwywaith gwerth y contract er mwyn eithrio llai o fusnesau bach a chanolig rhag gwneud cynnig;
  • Bydd angen llai o ddogfenaeth, yn benodol drwy wneud derbyn hunan-ddatganiadau gan y rhai sy’n gwneud y cynigion yn orfodol (drwy un ddogfen gaffael Ewropeaidd safonol) – dim ond y sawl sy’n llwyddo a fydd yn gorfod cyflwyno tystiolaeth ffurfiol;
  • Bydd hi’n orfodol cyfathrebu’n electronig ym maes caffael cyhoeddus: y bwriad yw y bydd hynny’n gwneud caffael yn fwy hygyrch, yn enwedig i fusnesau bach a chanolig.

Ar y pryd, croesawodd y Grŵp y modd yr oedd y Cyfarwyddebau drafft yn caniatáu cynnydd yn y defnydd posibl o negodi rhwng prynwyr a darparwyr, ond mynegodd bryderon difrifol am y ffaith fod Aelod-wladwriaethau’n gallu trosi’r gweithdrefnau perthnasol i gyfraith genedlaethol, neu beidio, yn ôl eu barn. Mae’n ymddangos bod hynny wedi ei hepgor o’r Cyfarwyddebau y cytunwyd arnynt, a’i bod yn ofynnol bellach i Aelod-wladwriaethau drosi’r holl weithdrefnau caffael yn gyfraith genedlaethol oni bai am y weithdrefn negodi heb ei chyhoeddi ymlaen llaw.

Yn ddiddorol, yn ystod y broses drafod ym Mrwsel, bu Llywodraeth y DU yn lobïo am gynnwys darpariaeth sy’n caniatáu cadw rhai contractau ar gyfer iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a diwylliannol yn ôl ar gyfer cystadleuaeth i fentrau cymdeithasol. Bydd y Comisiwn Ewropeaidd yn adolygu’r ddarpariaeth hon ymhen pum mlynedd i asesu ei heffaith.

Er bod y Cyfarwyddebau bellach wedi eu cwblhau, nid yw’r cyfle i ddylanwadu ar y deddfau a fydd yn llywodraethu’r maes caffael yng Nghymru ar ben eto. Mae hynny oherwydd bydd y Cyfarwyddebau yn caniatáu ychydig o ryddid o ran sut y maent yn cael eu trosi gan Aelod-wladwriaethau i gyfraith ddomestig.

Efallai yn bwysig i Lywodraeth Cymru, mae’n ymddangos bod gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth San Steffan wahanol safbwyntiau ynghylch yr hyn sy’n gwneud caffael cyhoeddus yn llwyddiannus. Mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i hyrwyddo’r defnydd o gaffael at amcanion polisi amgylcheddol a chymdeithasol, trwy ei pholisi Budd i’r Gymuned. Ar y llaw arall, nododd un o Weinidogion Cabinet Llywodraeth y DU, Francis Maude:

My predilection in general is that you should not load procurement with values and requirements other than getting what you want at the best price. There is always a temptation to use procurement to deliver other desirable objectives. My preference always is to keep it as stripped down and limited as it can be.

Felly, bydd Llywodraeth Cymru yn awyddus i sicrhau bod Llywodraeth y DU yn trosi’r Cyfarwyddebau ar ffurf sy’n ddigon hyblyg i alluogi Llywodraethau Cymru a’r DU i gyflawni eu hamcanion caffael, a all, o bosibl, fod yn wahanol i’w gilydd. Gall rhanddeiliaid gymryd rhan yn y broses drosi hon pan fydd Llywodraeth y DU yn ymgynghori ar ei rheoliadau arfaethedig. Ceir rhagor o wybodaeth ar wefan Gov.uk yma.

Mae ffynonellau defnyddiol eraill o wybodaeth am y Cyfarwyddebau newydd yn cynnwys: