Twristiaeth: cyfleoedd am dwf

8 Ebrill 2014

Erthygl gan Robin Wilkinson, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

LlandudnoYm mis Mehefin 2013, lansiodd Llywodraeth Cymru ei strategaeth twristiaeth ar gyfer 2013-2020, Partneriaeth ar gyfer Twf. Mae’r strategaeth hon yn cynnwys nod i gynyddu enillion o dwristiaeth yng Nghymru 10% neu fwy (mewn termau real) erbyn 2020.

Ar yr wyneb, efallai bod hwn yn ymddangos fel nod beiddgar ac uchelgeisiol. Fodd bynnag, mae’r adroddiad Tourism: Jobs and Growth, a gomisiynwyd gan Visit Britain, ac a gyhoeddwyd gan Deloitte ac Oxford Economics ym mis Tachwedd 2013, yn creu darlun o sector sydd â’r potensial ar gyfer twf sylweddol ledled y DU. Nodir yn yr adroddiad:

Tourism economy spending in Wales is forecast to grow slightly more slowly than in the other UK nations, at an annual average of 3.7 per cent in real terms, to reach £11.9 billion in 2025, or 5.1 per cent of the UK total.

Er y dylid bod yn ofalus wrth ddefnyddio amcangyfrifon economaidd, mae’r rhagolwg hwn yn codi’r cwestiwn, o leiaf, ynghylch tybed – pan gaiff ei osod yng nghyd-destun twf mawr a ragwelir yn y sector – a yw nod Llywodraeth Cymru i gynyddu enillion o dwristiaeth yng Nghymru 10% erbyn 2020 yn arbennig o uchelgeisiol.

Serch hynny, os yw enillion o dwristiaeth am dyfu 10% yng Nghymru, codir cwestiwn arall o ran faint o’r twf hwn a ddaw o’r farchnad ddomestig a faint a ddaw o’r farchnad dramor.

Yn 2013, oedd 89.7% o wariant ymwelwyr yng Nghymru yn dod gan breswylwyr y DU (gweler: Tourism: Jobs and growth). Ar hyn o bryd – o gymharu â chyfran poblogaeth Cymru, sef 4.9% o boblogaeth y DU – mae Cymru yn gwneud yn well na’r disgwyl yn y farchnad dwristiaeth ddomestig, am ei bod yn denu 6% o bob gwariant gan ymwelwyr domestig yn y DU.

Fodd bynnag, mae gwariant gan ymwelwyr tramor yn stori wahanol. Mae Oxford Economics yn amcangyfrif bod Cymru wedi denu 2.6% o wariant gan ymwelwyr tramor â’r DU yn 2013. Wrth gyflwyno tystiolaeth i’r Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig, nododd yr Athro Annette Pritchard, sy’n arbenigwr ar dwristiaeth, bod gostyngiad mawr yn nifer yr ymweliadau â Chymru gan dwristiaid tramor. Ym 1999 roedd dros 1 filiwn o ymweliadau aros gan dwristiaid tramor â Chymru. Roedd hyn wedi gostwng i 854,000 yn 2012. Fodd bynnag, nododd Dr Pritchard fod y duedd hon yn gyffredin i wledydd y DU a’r rhanbarthau tu allan i Lundain.

Erys y cwestiwn ynghylch faint o sylw y dylai Llywodraeth Cymru ei roi ar gyfuno ei marchnad dwristiaeth ddomestig graidd bresennol, a’r graddau y dylai geisio cynyddu potensial twristiaeth dramor nad yw wedi’i gyffwrdd, o bosibl, ar gyfer Cymru, yn enwedig o’r marchnadoedd cyfoethog fel yr Almaen a Gogledd America.

Mae’n argoeli y bydd 2014 yn flwyddyn allweddol ar gyfer nodau twristiaeth Llywodraeth Cymru. Yn ddiweddar, cyhoeddodd strwythur newydd ar gyfer cefnogi twristiaeth yng Nghymru: o fis Medi ymlaen, bydd y cyllid a ddarperir ar gyfer y Partneriaethau Twristiaeth Rhanbarthol (pedwar corff sector cyhoeddus-preifat sy’n darparu cymorth twristiaeth ar sail ranbarthol) yn dod i ben, a bydd Tîm Ymgysylltu Rhanbarthol newydd o fewn Croeso Cymru yn ymgymryd â’u swyddogaethau. Bydd Cymru hefyd yn weladwy yn fyd-eang, mewn ffordd na fu ers y Cwpan Ryder yn 2010 o bosibl, pan fydd arweinwyr y byd yn ymweld â Chasnewydd ar gyfer uwchgynhadledd NATO ym mis Medi. Eleni hefyd, nodir canmlwyddiant geni Dylan Thomas, a threfnwyd nifer o ddigwyddiadau i ddathlu etifeddiaeth y ffigwr llenyddol rhyngwladol poblogaidd hwn.

Ystyrir pob un o’r materion hyn, a rhagor, gan Bwyllgor Menter a Busnes y Cynulliad pan fydd yn cynnal ei ymchwiliad i dwristiaeth yng Nghymru, sydd ar y gweill. Mae’r Pwyllgor yn ceisio barn pobl ar y materion hyn drwy gynnal ymgynghoriad, sy’n cau ar 14 Mai, a gobeithia’r Pwyllgor ddechrau clywed tystiolaeth lafar gan dystion ym mis Mehefin.