Adroddiad Silk 2

6 Mawrth 2014

Erthygl gan Stephen Boyce, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Cyhoeddi ail adroddiad y Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru, y “Comisiwn Silk”

Ddydd Llun, cyhoeddodd y Comisiwn Silk ei ail adroddiad ar ddatganoli yng Nghymru.  Mae’r adroddiad yn canolbwyntio ar bwerau deddfwriaethol y Cynulliad ac mae’n gwneud 61 o argymhellion i’w gweithredu dros 10 mlynedd.  Ymdriniodd adroddiad yn 2012 â datganoli pellach o ran pwerau ariannol.

Mewn argymhelliad allweddol, mae’r adroddiad yn dadlau y dylai Cymru symud i “fodel o bwerau a gedwir yn ôl”, sef cyfundrefn sy’n rhestru’r pwerau a gedwir gan Lywodraeth y DU, gyda phopeth arall yn cael ei ddatganoli.  Ar hyn o bryd, nodir pwerau datganoledig o dan 20 pennawd yn Atodlen 7 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.  Mae’r comisiwn yn nodi y byddai model o’r fath yn ei gwneud yn gliriach a yw rhywbeth yn ddatganoledig ai peidio, ac y byddai’n gyson â’r trefniadau datganoledig mewn rhannau eraill o’r DU.

Mae adroddiad y comisiwn yn trafod materion cyfiawnder a phlismona, ac mae’n argymell datganoli cyfrifoldeb dros y gwasanaeth heddlu i Gymru.  Argymhellir datganoli’r system cyfiawnder fesul cam, gan ddechrau gyda chyfiawnder ieuenctid oherwydd ei gysylltiadau â llywodraeth leol a swyddogaethau datganoledig eraill.  Wedi hynny, mae’r comisiwn yn argymell astudiaeth dichonoldeb o ddatganoli carchardai a’r gwasanaeth prawf.  Yn y tymor hir, dylai fod adolygiad o ddatganoli agweddau eraill ar y system cyfiawnder, i’w gwblhau a’i roi ar waith erbyn 2025.

Mae’r adroddiad yn dweud y byddai’n hwyluso dealltwriaeth o’r gyfraith yng Nghymru pe bai’n haws i Weinidogion Cymru gyfeirio prosiectau i ddiwygio’r gyfraith at Gomisiwn y Gyfraith a phe bai holl ddeddfwriaeth sylfaenol ac eilaidd Cymru yn cael ei chyhoeddi fel corff.

Mae’r comisiwn yn argymell datganoli pwerau trafnidiaeth pellach dros y rheilffyrdd, porthladdoedd, rheoleiddio bysiau a thacsis, terfynau cyflymder a therfynau yfed a gyrru fel y bydd trefniadau yn symlach ac yn fwy cydlynol, ac i drafnidiaeth gael ei hintegreiddio’n well yng Nghymru.  Mae’n cynnig bod Llywodraeth Cymru yn cael mwy o rôl o ran penodi gweithredwyr masnachfreintiau rheilffyrdd trawsffiniol.

O ran rheoli adnoddau naturiol, mae’r Comisiwn yn argymell datganoli pob caniatâd cynllunio ynni o dan 350MW, sy’n gynnydd sylweddol ar y terfyn presennol o 50MW.  Ymysg yr argymhellion eraill y mae datganoli cyfrifoldeb dros garthffosiaeth a rhoi trwyddedau morol yn nyfroedd môr mawr Cymru.

Nid yw’r adroddiad yn argymell datganoli cyfrifoldeb dros ddarlledu i Gymru.  Fodd bynnag, mae’n credu y dylid creu corff llywodraethu datganoledig ar gyfer y BBC fel y creffir ar allbynnau’r BBC yng Nghymru a’u harolygu.  Dylid trosglwyddo cyfrifoldeb am y cyllid llywodraeth sy’n mynd yn uniongyrchol i S4C o Lywodraeth y DU i Lywodraeth Cymru.

Mae’r adroddiad yn galw am i’r ymgysylltiad rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU fod yn well ac yn fwy tryloyw, ac mae’n argymell sefydlu pwyllgor rhynglywodraethol i Gymru yn cynnwys Gweinidogion Cymru a Gweinidogion Llywodraeth y DU.  Byddai’r pwyllgor hwn yn gyfrifol am ymdrin â materion y setliad datganoli, gan gynnwys anghydfodau a chynigion ar gyfer diwygio, ac am fonitro a dylanwadu ar effaith yr UE ar Gymru.  Awgrym y comisiwn yw mai’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn y Cynulliad a’r Pwyllgor Materion Cymreig yn Nhŷ’r Cyffredin a fyddai’n gyfrifol am graffu ar waith y pwyllgor rhynglywodraethol i Gymru

Mae’r comisiwn yn gobeithio y bydd y Swyddfa Archwilio Genedlaethol a Swyddfa Archwilio Cymru am archwilio ar y cyd gysylltiadau rhynglywodraethol, ac mae’n credu y dylid darparu Cod Ymarfer statudol ar gyfer cysylltiadau rhynglywodraethol mewn Deddf Llywodraeth Cymru newydd.

Daeth y comisiwn i’r casgliad bod y Cynulliad yn rhy fach i gyflawni ei rôl yn ddigonol ac y dylai nifer yr ACau godi, ac er nad yw’n dweud gan faint, mae’n nodi bod y rhan fwyaf o’r dadansoddiadau yn awgrymu bod angen o leiaf 80 o Aelodau.  Yn y tymor byr, mae’n argymell ystyried ystod o opsiynau ar gyfer cynyddu gallu’r Cynulliad.

O ran iechyd a nawdd cymdeithasol, nid yw’r comisiwn yn cynnig newid y trefniadau presennol, ond mae’n gwneud argymhellion i wella cyflenwi gwasanaethau iechyd ar draws ffiniau. 

Mae argymhellion eraill yn ymdrin â’r iaith Gymraeg, rheoliadau adeiladu, argyfyngau sifil, etholiadau, cyfleoedd cyfartal, lles y teulu, addysg uwch a gwyddoniaeth, cyflogau athrawon a phenodi Arglwydd Raglawiaid.