Adroddiad y Pwyllgor Materion Cymreig am Fil Drafft Cymru

5 Mawrth 2014

Erthygl gan Alys Thomas, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Cyhoeddwyd Bil drafft Cymru   ar 18 Hydref 2013 ac ym mis Ionawr 2014, dechreuodd y Pwyllgor Dethol Materion Cymreig yn Nhŷ’r Cyffredin (“y Pwyllgor”) graffu arno cyn y broses ddeddfu. Cynhaliwyd chwe sesiwn dystiolaeth yn y Cynulliad ac yn San Steffan a chymerwyd tystiolaeth ysgrifenedig. Cyhoeddwyd yr adroddiad ar 28 Chwefror 2014

Mae’n nodi:

as a Committee, we have different views both about the principle of devolution in general and, more specifically, the devolution of financial powers. Our aim in conducting our pre-legislative scrutiny is to make specific improvements to the draft Wales Bill prior to its introduction as a Bill.

Mae’r prif gasgliadau wedi’u crynhoi isod.

Trefniadau etholiadol

Mae’r adroddiad yn argymell y dylid dileu cymal 1, yn ymwneud â pha mor aml y dylid cynnal etholiadau cyffredinol arferol y Cynulliad, o’r Bil drafft ac, yn ei le, dylid cynnwys darpariaethau i roi pwerau i’r Cynulliad benderfynu ar hyd ei dymhorau etholiadol ei hun.

Roedd cytundeb cyffredinol ymhlith y tystion nad yw’n ddelfrydol i Aelod Cynulliad fod yn aelod o Dŷ’r Cyffredin yr un pryd. Mae’r Adroddiad yn argymell bod Llywodraeth y DU yn diwygio cymal 3 o’r Bil drafft i ymestyn y cyfnod eithrio pan gaiff Aelodau Cynulliad fod yn aelod o Dŷ’r Cyffredin yr un pryd o chwe mis i ddeuddeg mis.

Mae’r Adroddiad yn nodi bod Bil drafft Cymru yn rhoi cyfle, drwy ddiwygio Deddf Llywodraeth Cymru 2006, i ddiweddaru rhai o brosesau a gweithdrefnau’r Cynulliad, fel yr awgrymwyd yn nhystiolaeth y Llywydd. Cyn cyflwyno’r Bil, dylai’r Swyddfa Gymreig a Chynulliad Cenedlaethol Cymru gydweithio i nodi meysydd lle ceir cytundeb cyffredinol yn eu cylch a’u cynnwys yn y Bil.

Ni ddaeth y Pwyllgor i unrhyw gasgliad ynglŷn â rhinweddau’r cynnig ar gyfer ymgeisyddiaeth ddeuol yn y Bil drafft.

Darpariaethau ariannol

Mae’r Adroddiad yn cytuno â’r ddarpariaeth yn Bil drafft Cymru sy’n nodi mai dim ond os yw pobl Cymru yn pleidleisio o blaid hynny mewn refferendwm y  caiff treth incwm ei datganoli’n rhannol i Lywodraeth Cymru. Mae datganoli treth incwm yn newid cyfansoddiadol pwysig ac mae angen i’r etholaeth benderfynu ar yr egwyddor cyn bwrw ymlaen â’r broses.

Er nad oedd ariannu teg yn fater a oedd wedi’i gynnwys yng nghwmpas yr ymchwiliad, mae’r Adroddiad yn cydymdeimlo â’r ddadl y dylid dod i benderfyniad cyn datganoli pwerau treth incwm, fel nad yw’r cynigion yn y Bil drafft yn rhoi Cymru dan anfantais annheg. Mae’r Pwyllgor yn credu y dylid archwilio ariannu teg ac nid yw’n ystyried bod angen gohirio gwneud hynny tan ar ôl etholiad cyffredinol 2015.

Mae’r Adroddiad yn argymell bod Llywodraeth y DU yn esbonio sut yr hoffai addasu’r grant bloc o ran treth dir y dreth stamp a threthi tirlenwi,    gan wneud hynny cyn caiff y Bil ei gyflwyno.

Mae’r Adroddiad yn nodi ei bod yn dal yn aneglur sut yr aeth y Llywodraeth ati i bennu’r ffigurau ar gyfer y terfynau benthyca  a nodir yn y Bil drafft. Nododd y dadleuon o blaid pennu terfynau benthyca drwy gynnal trafodaethau rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn hytrach na drwy ysgrifennu ffigur ar wyneb y Bil.

Mae’r Adroddiad yn nodi bod Llywodraeth y DU, wrth ddadlau na ddylid rhoi pwerau i Gymru gyhoeddi bondiau, gan y gallai hynny fod yn ddull ariannu drutach na dulliau ariannu eraill,  yn dadlau yn erbyn arfer y pŵer, yn hytrach na chael y pŵer. Cyhyd ag y byddai’r cyfyngiadau ar waith i sicrhau na fyddai’r terfyn benthyca cyffredinol yn newid ac  y byddai’r bondiau’n cyfrif tuag at y terfyn hwnnw, mae dadleuon o blaid rhoi’r gallu i Lywodraeth Cymru gyhoeddi bondiau. Nododd yr Adroddiad hefyd fod yr Alban wedi cael pwerau i gyhoeddi bondiau ar 19 Chwefror 2014.

Mae’r Adroddiad yn argymell bod Llywodraeth y DU yn ystyried newid y Bil drafft i roi rheolaeth ddeddfwriaethol i’r Cynulliad dros ei weithdrefnau cyllidebol.

Nododd yr adroddiad nifer o feysydd y dylai Llywodraeth y DU roi rhagor o wybodaeth amdanynt cyn y caiff y Bil ei gyflwyno, er enghraifft, y grant bloc, dulliau addasu, sut y cafodd y terfynau benthyca eu pennu a datganoli ardrethi busnes yn llawn.

Ni wnaeth y Pwyllgor unrhyw argymhellion o ran y ddarpariaeth “lockstep” yn y Bil drafft a fyddai’n golygu y byddai angen newid y cyfraddau treth ym mhob band treth gyda’i gilydd, yn ôl yr un nifer o geiniogau yn y bunt.  Nid oes modd newid y tair cyfradd wahanol ar wahân. Mae’r Adroddiad yn nodi bod y rhan fwyaf o’r tystion o blaid dileu’r ‘lockstep’, ond bod barn aelodau’r Pwyllgor yn amrywio.

Datganiad y Llywydd

Cyhoeddodd y Llywydd, y Fonesig Rosemary Butler AC, ddatganiad yn ymateb i’r Adroddiad, gan ddweud:

Rwy’n croesawu argymhelliad y Pwyllgor Materion Cymreig sy’n nodi y dylai’r Cynulliad Cenedlaethol gael rheolaeth dros ei brosesau cyllidebu. Yn wir, gelwais am hynny yn y dystiolaeth a gyflwynais.

Rwyf o’r farn y bydd hyn yn caniatáu i’r Cynulliad newid ei weithdrefnau cyllidebu fel nad yw’n canolbwyntio’n unig ar sut mae Llywodraeth Cymru yn gwario arian cyhoeddus, ond bod modd i ni graffu ar benderfyniadau’r Llywodraeth wrth godi arian o’r fath.

Yn ogystal, rwy’n croesawu argymhelliad y Swyddfa Gymreig i weithio gyda’r Cynulliad i bennu meysydd lle y gallai Bil Cymru gynnwys gwelliannau y cytunir ar y cyd i Ddeddf Llywodraeth Cymru.

Gallai hyn fod yn gyfle i gynnal trafodaethau difrifol ynghylch rhai o’r anghysonderau sydd yn y Ddeddf, a ddylai adlewyrchu natur y Cynulliad fel corff seneddol aeddfed yn well. Er enghraifft, byddai bellach yn fwy priodol cyfeirio at y Cynulliad fel Senedd, gan gydnabod ei bwerau deddfu.

Yn olaf, rwyf o’r farn ei bod ond yn iawn i gorff seneddol aeddfed bennu hyd ei dymhorau ei hun, ac rwy’n croesawu barn y Pwyllgor yn y maes hwn.