Llifogydd a Chynllunio

21 Chwyfor 2014

Erthygl gan Graham Winter, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Mae’r tywydd garw a welwyd yng Nghymru yn ddiweddar wedi codi cwestiynau unwaith eto ynghylch adeiladu tai ac adeiladau eraill ar dir sy’n agored i lifogydd.

Mae rhai wedi galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu ei pholisïau a’i chanllawiau ar gynllunio mewn perthynas â datblygu a’r perygl o lifogydd. Yn ôl Polisi Cynllunio Cymru, dylai awdurdodau cynllunio lleol ond ystyried cynigion datblygu mewn ardaloedd a ddiffinnir fel rhai sydd â pherygl uchel o lifogydd o dan yr amodau a ganlyn:

  • lle gellir cyfiawnhau datblygiad newydd yn y lleoliad hwnnw, er y bydd yn debygol o fod mewn perygl o lifogydd;
  • lle na fyddai’r datblygiad arfaethedig yn arwain at ddwysau datblygiad presennol a allai ei hun fod mewn perygl;
  • lle na fyddai datblygiad newydd yn cynyddu effeithiau andwyol posibl yn deillio o lifogydd.

Mae TAN 15:  Datblygu a’r Perygl o Lifogydd, a gyhoeddwyd yn 2004, yn cynghori awdurdodau cynllunio lleol i gyfeirio datblygiadau newydd ymaith o’r ardaloedd hynny sydd â pherygl uchel o lifogydd.  Mae’n rhannu mathau o ddatblygiad yn dri chategori, yn ôl pa mor agored ydynt i niwed o ran llifogydd:

  • Gwasanaethau brys (er enghraifft: ysbytai, gorsafoedd ambiwlans, gorsafoedd tân, gorsafoedd heddlu);
  • Datblygiadau sy’n hynod agored i niwed (er enghraifft: eiddo preswyl, ysgolion, llyfrgelloedd, canolfannau hamdden, gorsafoedd pŵer, safleoedd gwaredu gwastraff);
  • Datblygiadau sy’n llai agored i niwed (er enghraifft: datblygiadau masnachol a manwerthu, seilwaith trafnidiaeth, meysydd parcio, safleoedd echdynnu mwynau).

Defnyddir Mapiau Cyngor Datblygu sy’n cynnwys tri pharth (A, B a C) i gychwyn y profion cynllunio priodol ar gyfer asesu a ddylai’r categorïau hyn o ddatblygiadau gael eu hystyried.

Parth A (perygl bach o lifogydd neu dim perygl o gwbl) – nid oes angen profion;

Parth B (ardaloedd y mae’n hysbys eu bod wedi dioddef llifogydd yn y gorffennol) – yn addas ar gyfer y rhan fwyaf o fathau o ddatblygiadau, yn gyffredinol, cyn belled â bod lefel y safle yn uwch na’r llinell ar gyfer llifogydd eithafol;

Mae Parth C yn seiliedig ar yr amlinelliad ar gyfer llifogydd eithafol, sy’n hafal ag, neu’n fwy nag, un siawns mewn 1,000 o weld llifogydd afonol, llifogydd llanw neu lifogydd arfordirol mewn unrhyw flwyddyn benodol.  Rhennir Parth C yn ddwy ran: Parth C1 (gorlifdir sydd eisoes wedi’i ddatblygu ac y mae ganddo isadeiledd sylweddol, gan gynnwys amddiffynfeydd rhag llifogydd); a Pharth C2 (gorlifdir nad oes ganddo isadeiledd sylweddol ar gyfer ei amddiffyn rhag llifogydd). Mae rhai mathau o ddatblygiadau yn annerbyniol ym Mharth C2. Gall eraill ond cael eu gwireddu unrhyw le ym Mharth C os yw gofynion penodol yn cael eu bodloni, gan gynnwys cael amddiffynfeydd digonol rhag llifogydd, llwybrau ar gyfer dianc, cynlluniau argyfwng llifogydd ac elfennau sydd wedi’u dylunio i wrthsefyll llifogydd.

Felly, dylid cyfeirio datblygiadau newydd ymaith o barth C a thuag at dir addas ym Mharth A neu, fel arall, at Barth B, lle bydd llifogydd afonol neu arfordirol yn llai o broblem.

O ran unrhyw gynigion datblygu a gyflwynir ym Mharth C, mae angen Asesiad Canlyniadau Llifogydd. Dylid ymghynghori hefyd â Chyfoeth Naturiol Cymru mewn perthynas ag unrhyw gais cynllunio ym Mharth C.

Mae’rMapiau Cyngor Datblygu sy’n gysylltiedig â TAN 15 yn cael eu hadolygu o leiaf unwaith bob pedair blynedd. Cynhaliwyd yr adolygiad diwethaf ym mis Mawrth 2013, ac fe ysgrifennodd y Prif Gynllunydd at yr awdurdodau cynllunio lleol i roi gwybod iddynt fod y mapiau wedi’u diweddaru. Mae’r llythyr yn datgan fod y mapiau diweddaraf yn cynnwys nifer o newidiadau, gan gynnwys lle mae parthau C2 wedi’u hymestyn mewn rhai ardaloedd. Dros amser, mae’r mapiau wedi dod yn fwy soffistigedig wrth i wybodaeth well ddod i law.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (yn flaenorol, Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru) yn monitro nifer y ceisiadau cynllunio a ganiateir gan awdurdodau cynllunio lleol, yn groes i’w gyngor, ar gyfer datblygiadau mewn ardaloedd lle mae perygl o lifogydd (er nad yw’r holl gynlluniau hyn o reidrwydd yn cael eu gwireddu).  Er bod nifer yr achosion wedi gostwng yn sylweddol o’r uchafbwynt a welwyd yn 2005/06, mae arwyddion o gynnydd bach wedi dod i’r amlwg dros y blynyddoedd diwethaf.

Ffynhonnell: Cyfoeth Naturiol Cymru

Ffynhonnell: Cyfoeth Naturiol Cymru

Yn ei thystiolaeth, tynnodd Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru sylw eisoes at anghysonderau o ran y modd y mae awdurdodau cynllunio lleol yn dilyn y cyngor a roddir yn TAN 15.  Er mwyn ymdrin â hyn, cyflwynodd Llywodraeth Cymru Gyfarwyddyd Hysbysu newydd yn 2012 sydd bellach yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau roi gwybod i Lywodraeth Cymru os ydynt yn bwriadu caniatáu datblygiadau ym Mharth C2, fel datblygiadau preswyl sydd â 10 neu fwy o anheddau, yn groes i TAN 15.  Yna, gall Lywodraeth Cymru ystyried ‘galw i mewn’ y ceisiadau hyn a gwneud penderfyniad arnynt.