Bil drafft Cymru: Tystiolaeth gan y Llywydd a’r Prif Weinidog

30 Ionawr 2014

Erthygl gan Alys Thomas, National Assembly for Wales Research Service

Llun: o Pixabay. Dan drwydded Creative Commons.

Llun: o Pixabay. Dan drwydded Creative Commons.

Cafodd y Bil drafft Cymru (“y Bil drafft”) ei osod yn y Senedd gan Lywodraeth y DU ar 18 Rhagfyr 2013. Ceir crynodeb o’r Bil drafft yma.

Mae Pwyllgor Dethol Tŷ’r Cyffredin ar Faterion Cymreig (“y Pwyllgor Materion Cymreig”) yn cynnal gwaith craffu cyn deddfu ar y Bil. Cafodd y rhai sydd â diddordeb eu gwahodd i ystyried:

  • A yw cynigion y Llywodraeth, fel y’u nodir yn y Bil drafft, ar gyfer datganoli ariannol a threfniadau etholiadol y Cynulliad Cenedlaethol yn rhai cadarn? Os nad ydynt, sut y gellir gwella’r Bil drafft?
  • A yw darpariaethau’r Bil drafft yn cyflawni amcanion polisi Llywodraeth y DU? A ellir gwella neu newid geiriad y Bil drafft?

Dechreuodd y Pwyllgor Materion Cymreig gymryd tystiolaeth lafar ddydd Mawrth 14 Ionawr 2014 ac mae’n bwriadu cyhoeddi ei adroddiad ddiwedd mis Mawrth 2014.

Ddydd Llun 20 Ionawr, cyfarfu’r Pwyllgor Materion Cymreig yn y Senedd a chymryd tystiolaeth gan y Llywydd, y Fonesig Rosemary Butler AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid, Jocelyn Davies AC,  y Prif Weinidog, y Gwir Anrhydeddus Carwyn Jones AC, a’r Gweinidog Cyllid, Jane Hutt AC. Gellir gweld trawsgrifiad o’r dystiolaeth heb ei chywiro yma.

Croesawodd y Llywydd y Bil drafft a gwneud rhai pwyntiau allweddol:

  • byddai anghysondeb pe byddai’r Cynulliad yn cael pwerau trethi a benthyca, ond nid y rheolaeth gyfreithiol i benderfynu ar y broses ar gyfer defnyddio pwerau o’r fath;
  • dylid diwygio’r Bil drafft i roi rheolaeth ddeddfwriaethol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ddiwygio ei brosesau cyllidebol ei hun;
  • oherwydd y cyfrifoldebau ychwanegol a fyddai’n cael eu cyflwyno gan y Bil drafft, byddai hefyd yn briodol pe bai’r Bil yn cynyddu nifer yr Aelodau Cynulliad i 80, fel yr argymhellwyd gan Gomisiwn Richard yn 2004.

Croesawodd y Llywydd y ddarpariaeth yn y Bil sy’n newid yr enw swyddogol i ‘Llywodraeth Cymru’ a mynegodd y farn hefyd bod Deddf Llywodraeth Cymru 2006 yn rhy benodol ac awgrymodd newidiadau iddi, gan gynnwys:

  • cyfeirio at y Cynulliad fel Senedd (sy’n adlewyrchu ei bwerau deddfu) a newid teitl y Llywydd i ‘Llefarydd’;
  • diwygio’r Bil fel bod angen i’r Cynulliad gyfarfod o fewn 14 diwrnod, yn hytrach na saith niwrnod fel y mae ar hyn o bryd, ar ôl etholiad y Cynulliad i adlewyrchu’r tebygolrwydd na fydd gan un blaid fwyafrif a thrwy hynny ganiatáu mwy o amser ar gyfer trafodaethau i greu clymblaid;
  • bod y Bil yn ailystyried dyletswyddau Ysgrifennydd Gwladol Cymru, yr ymddengys bod llawer ohonynt bellach wedi dyddio, a diwygio pŵer yr Ysgrifennydd Gwladol mewn perthynas â’r Cynulliad, fel:

–       y ddyletswydd i gymryd rhan yn nhrafodion y Cynulliad fel rhan o’r ymgynghoriad ar raglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU;

  • bod y Bil yn dileu’r cyfyngiadau ar gyfansoddiad pwyllgorau’r Cynulliad; dylai hynny gael ei benderfynu gan y Cynulliad ei hun drwy ei Reolau Sefydlog.

Dywedodd y Prif Weinidog fod Llywodraeth Cymru, ar y cyfan, yn croesawu’r Bil drafft, er bod angen trafodaeth bellach gyda Llywodraeth y DU ynghylch rhai materion.

Nododd y Prif Weinidog fod y terfyn ar gyfer benthyca cyfalaf wedi’i osod ar uchafswm o £500 miliwn yn y Bil drafft, sy’n cymharu’n anffafriol â Gogledd Iwerddon, sydd â therfyn o £2.2 biliwn, a’r Alban, sydd â’r un terfyn. Hefyd, nid oes gan Ogledd Iwerddon y pŵer i godi refeniw.

Dywedodd y Prif Weinidog nad oedd yn bwriadu gofyn am bwerau treth incwm hyd nes i’r mater ariannu teg gael ei ddatrys. Cyfeiriodd at waith Comisiwn Holtham, a ganfu fod Cymru’n cael ei thanariannu gan £300 miliwn.  Ychwanegodd na fu erioed dim dadlau ynghylch yr adroddiad ac na fu erioed amheuaeth ynghylch ei sail.

O ran y dull cam clo ar gyfer datganoli treth incwm (h.y. y diffyg pŵer i amrywio cyfraddau treth incwm), dywedodd y Prif Weinidog nad oedd o’r farn y byddai’n rhoi digon o hyblygrwydd i Lywodraeth Cymru yn y dyfodol. Roedd yn cytuno â thystiolaeth Gerald Holtham i’r Pwyllgor Materion Cymreig na fyddai modd ei ddefnyddio. Esboniodd y Prif Weinidog mai’r broblem gyda’r dull cam clo yw, os caiff treth incwm ei ddefnyddio fel offeryn ariannol, ei fod yn cyfyngu’n ddifrifol ar y gallu i ddefnyddio pwerau mewn modd hyblyg. Dywedodd:

‘I just do not believe that it would be the sort of power in its present form that would do any good, as far as the people of Wales are concerned. If there were to be more flexibility, and if the issue of fair funding were to be addressed, the debate changes, but we are not at that stage yet.’

Dywedodd Jane Hutt, y Gweinidog Cyllid, fod consensws ar draws y pleidiau yng Nghymru, sydd wedi’i adlewyrchu yn Adroddiad Comisiwn Silk. O ran y materion hynny y mae Llywodraeth Cymru o’r farn y gellir eu gwella yn y Bil, sef terfynau benthyca, y Doll Teithwyr Awyr a’r cam clo, dywedodd fod trafodaethau ar y gweill gyda Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys, Danny Alexander AS.

Roedd y Prif Weinidog yn gwrthwynebu gwrthdroi’r gwaharddiad ar ymgeiswyr deuol, am ei fod o’r farn y byddai’r sefyllfa’n drysu’r cyhoedd. Gofynnodd hefyd, os yw cyflawni dwy swydd yn peri pryder, pam nad yw hynny’n berthnasol i bawb (er enghraifft, i ASau ac ASEau).

Rhoddodd Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid, Jocelyn Davies AC, hefyd dystiolaeth. Dywedodd:

‘I suppose that the budget process is a concern for us. The Welsh Government must be accountable to the Assembly and must need the approval of the Assembly for its borrowing. We expected to see inter-governmental negotiations respecting both constitutional responsibilities in terms of the limits and we wanted to see the prudential framework for borrowing. Of course, we also made a recommendation that the Government here should be allowed to issue bonds.’

Mae’r Pwyllgor Materion Cymreig wedi cynnal sesiynau tystiolaeth eraill. Mae’r trawsgrifiadau i’w gweld yma.

Bydd arweinwyr y pleidiau eraill yn y Cynulliad yn rhoi tystiolaeth yn San Steffan ddydd Iau 30 Ionawr 2014.