Y Gymraeg: cyflwyno’r set gyntaf o safonau

13 Ionawr 2014

Erthygl gan Rhys Iorwerth, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Ar hyn o bryd, o dan Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993, mae’n rhaid i nifer o gyrff cyhoeddus lunio’r hyn a elwir yn Gynllun Iaith Gymraeg. Dylai’r cynllun hwnnw amlinellu sut y bydd y corff dan sylw yn trin y Gymraeg a’r Saesneg ar y sail eu bod nhw’n gyfartal wrth gynnal busnes yng Nghymru. Dyma’r gyfundrefn sydd wedi bod yn sail i ddarparu gwasanaethau dwyieithog yn y sector cyhoeddus ers dros ugain mlynedd.

Fel yr eglurwyd yn y blogiad hwn, mae disgwyl i Gynlluniau Iaith Gymraeg gael eu disodli dros y blynyddoedd nesaf gan yr hyn a elwir yn safonau – a hynny wrth i Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 gael ei roi ar waith.

Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw cyflwyno’r safonau hyn (ar ffurf is-ddeddfwriaeth). Gwaith Comisiynydd y Gymraeg wedyn fydd sicrhau bod y sefydliadau perthnasol yn cydymffurfio â’r safonau.

Ar 6 Ionawr 2014, cyhoeddodd y Prif Weinidog gynigion y Llywodraeth ar gyfer y set gyntaf o safonau, a fydd yn berthnasol i gynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol, awdurdodau’r parciau cenedlaethol a Gweinidogion Cymru (h.y. Llywodraeth Cymru ei hun). Mae manylion am y safonau arfaethedig i’w gweld fan hyn.

Bwriad y safonau yw ei gwneud yn fwy eglur i bobl pa wasanaethau y gallant ddisgwyl eu cael yn Gymraeg, a sicrhau bod y gwasanaethau hynny’n rhai cyson. Mae cynigion y Llywodraeth yn cynnwys 134 o safonau i gyd, mewn pum maes gwahanol:

  • Safonau cyflenwi gwasanaethau (sut mae’r sefydliad yn gohebu, yn ateb y ffôn, yn cynnal cyfarfodydd, yn hysbysebu, yn darparu cyhoeddiadau, ac yn y blaen);
  • Safonau llunio polisi (sut mae’r sefydliad yn edrych ar effeithiau penderfyniadau polisi ar y Gymraeg);
  • Safonau gweithredu (sut mae’r sefydliad yn defnyddio’r Gymraeg wrth weinyddu’n fewnol, defnyddio technoleg, cynllunio’r gweithle, hyfforddi a recriwtio, ac yn y blaen);
  • Safonau hybu (sut mae’r sefydliad yn mynd ati i hybu a hwyluso’r Gymraeg yn ehangach);
  • Safonau cadw cofnodion (sut mae’r sefydliad yn cofnodi’r modd y mae’n cydymffurfio â’r safonau eraill, yn cofnodi gwybodaeth am sgiliau Cymraeg, ac yn cofnodi cwynion perthnasol).

Rhwng mis Mai a mis Awst 2012, mae’n werth nodi bod Comisiynydd y Gymraeg wedi cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar safonau posibl a luniwyd ganddi hi. Cafodd y rheini eu gwrthod gan Lywodraeth Cymru, gyda’r Gweinidog ar y pryd yn dweud eu bod yn rhy gymhleth ac nad oeddent yn ‘cyflawni’r nod polisi sy’n gyffredin i ni sef rhoi hawliau ieithyddol clir i ddinasyddion’.

Y cwestiwn fydd yn cael ei holi nawr yw i ba raddau y mae safonau arfaethedig y Llywodraeth yn gwneud hynny, a beth fydd y goblygiadau o ran sut y mae’r sefydliadau dan sylw yn darparu eu gwasanaethau dwyieithog. Mae’n anochel hefyd y bydd pobl yn mynd ati i gymharu’r safonau arfaethedig â gofynion Cynlluniau Iaith presennol y cyrff perthnasol.

Yn y cyd-destun hwnnw, mae’r drefn debygol o ran yr hyn a fydd yn digwydd nesaf fel a ganlyn:

  • Y cam cyntaf yw y bydd Comisiynydd y Gymraeg yn mynd ati i gynnal yr hyn a elwir yn ‘ymchwiliad safonau’ – sef ymchwilio ac ymgynghori i benderfynu a ddylai’r sefydliadau orfod cydymffurfio â’r safonau, a pha safonau penodol os hynny;
  • Bydd y Comisiynydd yn llunio ‘adroddiad safonau’ ar gyfer Gweinidogion Cymru, yn crynhoi casgliadau’r ymchwiliad. Yn ôl amserlen ddiweddaraf y Llywodraeth, bydd hyn yn digwydd ym mis Mai 2014;
  • Bydd Llywodraeth Cymru wedyn yn cyflwyno rheoliadau drafft gerbron y Cynulliad (yn ystod tymor yr hydref 2014, yn ôl yr amserlen);
  • Os bydd y Cynulliad yn cymeradwyo’r rheoliadau, bydd y Comisiynydd yn cyflwyno ‘hysbysiad cydymffurfio’ i’r sefydliadau dan sylw, gan nodi pa safonau y mae’n ddyletswydd arnynt i gydymffurfio â hwy, ac erbyn pa bryd.

Fel y pwysleisir uchod, dim ond i gynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol, awdurdodau’r parciau cenedlaethol a Gweinidogion Cymru y bydd y set gyntaf hon o safonau’n berthnasol. Nid yw’r Llywodraeth wedi cyhoeddi eto ei hamserlen ar gyfer cyflwyno safonau ar gyfer cyrff eraill.

Bu Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol y Cynulliad yn craffu ar faterion yn ymwneud â’r Gymraeg mewn dau gyfarfod yn ddiweddar: y cyntaf gyda Chomisiynydd y Gymraeg ar 14 Tachwedd 2013, a’r ail gyda’r Prif Weinidog ar 4 Rhagfyr 2013.