Cyhoeddiad Newydd: Datblygiadau mewn llywodraeth leol

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Ers i strwythur presennol llywodraeth leol Cymru gael ei sefydlu yn 1996, bu gwleidyddion a sylwebwyr yn trafod yn barhaus pa mor effeithiol yw’r fframwaith hwnnw.

Ym mis Mawrth 2011, digwyddodd dau beth pwysig i hoelio’r sylw ar hyn. Yn gyntaf, pasiwyd Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 gan y Cynulliad Cenedlaethol, a hwnnw’n rhoi i Weinidogion Cymru bwerau digynsail i uno dwy neu dair o ardaloedd awdurdodau lleol ac i gyhoeddi canllawiau statudol ar gydweithio rhwng cynghorau.

Yn fuan wedyn, cyhoeddwyd ‘adolygiad Simpson’ o lywodraeth leol:Lleol, Rhanbarthol, Cenedlaethol: Pa wasanaethau yw’r rhai gorau i’w darparu ble? Adroddiad oedd hwn ac ynddo un ar hugain o argymhellion yn edrych ar y ffordd orau o ddarparu gwasanaethau llywodraeth leol yng Nghymru dros y blynyddoedd a oedd i ddod. Roedd ynddo bwyslais amlwg ar gydweithio, ac roedd yr adroddiad yn cyd-fynd ag adolygiadau tebyg, ond ar wahân, a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru ar ddarparu addysg a gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru.Local Gov wel

Arweiniodd adolygiad Simpson maes o law at arwyddo’r Compact ar gyfer Newid rhwng Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol yng Nghymru (‘Compact Simpson’) ym mis Rhagfyr 2011. Bwriad y Compact oedd rhoi trywydd clir ar gyfer trefnu gwasanaethau cyhoeddus ar lefelau cenedlaethol, rhanbarthol ac is-ranbarthol. Y nod oedd meithrin dull ffurfiol o weithio mewn partneriaeth ar draws ystod o wasanaethau cyngor gwahanol, a gwneud cydweithio yn ffordd fwy gyson o wella canlyniadau wrth ddarparu’r gwasanaethau hynny.

Hyd at fis Mawrth 2013, Carl Sargeant AC oedd y Gweinidog dros Lywodraeth Leol a Chymunedau yn Llywodraeth Cymru. Trwy gydol ei gyfnod yn y swydd, pwysleisiai mai cyflawni oedd yn bwysig. Nid oedd ad-drefnu strwythurau, meddai, yn rhan o’i agenda.

Serch hynny, pan gyhoeddodd y Prif Weinidog ar 18 Ebrill 2013 ei fod am sefydlu Comisiwn ar Lywodraethu a Darparu Gwasanaethau Cyhoeddus, roedd y dadleuon yn cael lle amlwg drachefn. Yn ôl y Prif Weinidog, roedd sôn am ad-drefnu yn ‘gynamserol’. Dywedodd na fyddai ‘unrhyw lywodraeth gyfrifol yn rhoi ar waith ddiwygiadau strwythurol mawr sy’n gostus ac yn tarfu ar wasanaethau heb achos clir, cydlynol a grymus dros wneud hynny’. Eto i gyd, cyfaddefodd yn y Cyfarfod Llawn ar 30 Ebrill 2013 fod hyn yn bosibilrwydd:

Nid wyf yn credu bod unrhyw un—neu efallai fod un neu ddau yn y Siambr—sy’n credu bod cael 22 o awdurdodau lleol, gyda’u ffiniau presennol, yn briodol o ran darparu gwasanaethau llywodraeth leol ar draws Cymru. Felly, mae mater ad-drefnu llywodraeth leol yn rhywbeth y gall y comisiwn hwn ei ystyried, ac rydym yn edrych ymlaen at unrhyw gasgliadau y gallai eu gwneud yn sgil hynny. Cawsom nifer o adolygiadau yn y gorffennol—mae Beecham, er enghraifft, yn un ohonynt—lle yr awgrymwyd mai cydweithio yw’r ffordd ymlaen. Bu’r canlyniadau, a dweud y lleiaf, yn gymysg. Felly, efallai mai ad-drefnu sylfaenol—ac nid wyf am achub y blaen ar yr hyn y mae’r comisiwn yn mynd i’w wneud na’i ddweud—yw’r ffordd ymlaen.

 Gyda’r sôn felly yn parhau am ad-drefnu, mae’r papur hwn Diwygio gwasanaethau cyhoeddus: datblygiadau mewn llywodraeth leol yn rhoi llinell amser o’r prif ddatblygiadau ym mholisi diwygio gwasanaethau cyhoeddus sydd wedi effeithio ar lywodraeth leol yng Nghymru yn ddiweddar.


Erthygl gan Rhys Iorwerth, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru.