Bil Addysg (Cymru) yn amlygu’r gwahaniaethau rhwng tymhorau ysgol Cymru a Lloegr

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Ar yr un diwrnod (1 Gorffennaf 2013) y cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei chynllun i sicrhau bod dyddiadau tymhorau (a gwyliau) ysgolion yr un peth ledled Cymru, drwy gyflwyno’r Bil Addysg (Cymru) i’r Cynulliad, fe gyhoeddodd Llywodraeth y DU y Bil Dadreoleiddio Drafft, gyda’r bwriad o wneud bron yn union i’r gwrthwyneb yn Lloegr.

O dan y Bil Addysg (Cymru), caiff awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir ac ysgolion sefydledig eu hannog i gyd-weithio i gysoni dyddiadau tymhorau ysgolion fel y maent yn bresennol. Fodd bynnag, yn hollbwysig, byddai gan Lywodraeth Cymru y pŵer i gamu mewn a phennu dyddiadau tymhorau ar eu rhan, os byddant wedi methu â chytuno arnynt.

Mae’n ddiddorol nodi y byddai’r Bil Dadreoleiddio Drafft yn trosglwyddo’r cyfrifoldeb am bennu dyddiadau tymhorau oddi wrth awdurdodau lleol yn Lloegr gan ei roi i gyrff llywodraethu ysgolion. Mae hynny wedi peri pryder i undebau dysgu yn Lloegr, gan gynnwys Undeb Cenedlaethol yr Athrawon, a ddywedodd mewn datganiad i’r wasg y byddai’r cynlluniau creu anhrefn ar gyfer teuluoedd yn Lloegr. Mae Undeb Cenedlaethol yr Athrawon Cymru wedi bod yn gefnogol ar y cyfan i gynlluniau Llywodraeth Cymru i gysoni tymhorau ysgolion gan ddweud mai cael strwythur tymhorau cyson ledled awdurdodau lleol yng Nghymru fyddai’r system fwyaf addas a chyfleus i fyfyrwyr, athrawon a rhieni. (ymateb Undeb Cenedlaethol yr Athrawon Cymru i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru’r hydref diwethaf)

Cysoni tymhorau ysgolion yw un o’r meysydd sydd wedi’i gynnwys yn y Bil Addysg (Cymru).  Mae’r Bil hefyd yn cynnig ymestyn y gofyniad presennol bod yn rhaid i athrawon gofrestru gyda chorff cofrestru proffesiynol, (Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru ar hyn o bryd) fel y byddai’n rhaid i’r gweithlu addysg ehangach wneud hefyd, sef gweithwyr cymorth dysgu mewn ysgolion ac athrawon a gweithwyr cymorth dysgu mewn sefydliadau Addysg Bellach. Byddai corff cofrestru newydd yn cael ei sefydlu ar gyfer hynny, sef Cyngor y Gweithlu Addysg.

Mae’r Bil hefyd yn bwriadu newid sut y caiff anghenion addysgol ychwanegol ôl-16 pobl ifanc eu hasesu a chreu prosesau newydd ar gyfer sut bydd y ddarpariaeth ddilynol yn cael ei llunio a’i hariannu. Byddai’r newidiadau’n golygu cyfrifoldebau ychwanegol i awdurdodau lleol yn y maes hwn. Mae Llywodraeth Cymru o’r farn, am fod llywodraeth leol eisoes ynghlwm wrth y broses hyd at pan fydd plant yn 16 oed, y byddai hynny’n creu system symlach a llai biwrocrataidd.

Mae’r Bil hefyd yn cynnwys proses symlach i ysgolion annibynnol gofrestru i dderbyn dysgwyr gydag anghenion addysgol arbennig, gan fod dwy ffordd o wneud hynny yn ôl deddfwriaeth bresennol. Yn olaf, mae newidiadau gweithdrefnol arfaethedig yn cael eu cynnig i sut caiff Prif Arolygydd ac Arolygwyr Estyn eu penodi, sef Arolygiaeth Ei Mawrhydi ar gyfer Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru.

Mae’r Bil Addysg (Cymru) bellach wedi cychwyn ar ei daith drwy’r broses ddeddfu. Bydd y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc yn clywed tystiolaeth ac yn ymgymryd â’r gwaith o graffu ar y Bil dros y misoedd i ddod.


Erthygl gan Michael Dauncey, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru.