Y Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru): cyfnod newydd i wasanaethau cymdeithasol yng Nghymru?

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Mae Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Cynulliad wedi bod yn craffu ar Fil gwasanaethau cymdeithasol mawr cyntaf Cymru.  Os caiff ei basio gan y Cynulliad, bydd y Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) yn darparu fframwaith newydd ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru a fydd yn wahanol i weddill y DU.

Mae’r Bil yn cynnwys pwyslais newydd ar wasanaethau ataliol a llesiant, a gwella gwybodaeth a chyngor i bobl y mae angen gwasanaethau gofal cymdeithasol arnynt.  Ei nod yw cryfhau trefniadau diogelu a sicrhau bod gofalwyr yn cael gwell mynediad at wasanaethau, a bydd yn cyflwyno fframwaith cymhwysedd cenedlaethol newydd i helpu i leihau amrywiadau mewn mynediad at wasanaethau ledled Cymru.

Er mwyn helpu i gyflawni’r nodau hyn, mae’r Bil yn ceisio cryfhau trefniadau cydweithio a gweithio mewn partneriaeth, yn enwedig rhwng iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, ac i hyrwyddo darparwyr cydweithredol, mentrau cymdeithasol a darparwyr y trydydd sector.  Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried cryfhau llais a rheolaeth i bobl sy’n defnyddio gwasanaethau cymdeithasol fel un o brif amcanion y Bil.

Bwriad Llywodraeth Cymru oedd creu Bil ‘pobl’ sy’n nodi fframwaith gwasanaethau i bob grŵp o ddefnyddwyr gofal: oedolion, plant a gofalwyr.  Mae hyn yn cyd-fynd â nod gwasanaethau cymdeithasol integredig i bobl o bob oed.

Mae’r Bil yn benllanw proses hir o drafod ac ymgynghori gan Lywodraeth Cymru a rhanddeiliaid gwasanaethau cymdeithasol, sydd wedi cynnwys Comisiwn Annibynnol ar Wasanaethau Cymdeithasol yng Nghymru a Grŵp Gorchwyl Gweithlu Gwaith Cymdeithasol.  Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Bapur Gwyn Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy yn 2011, a’r llynedd ymgynghorodd ar ei chynigion ar gyfer Bil gwasanaethau cymdeithasol.

Mae llawer o ddiddordeb wedi bod yn y Bil yng Nghymru ac mae nifer o unigolion a sefydliadau wedi cyfrannu tystiolaeth i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ac i’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol.  Ymddangosodd 28 o sefydliadau gerbron y Pwyllgor.  Rhoddodd pedwar grŵp o bobl ifanc a phanel o oedolion â phrofiad o wasanaethau cymdeithasol dystiolaeth hefyd.  Cynhaliodd Tîm Allgymorth y Cynulliad wyth grŵp ffocws gyda phobl hŷn mewn pum ardal yng Nghymru i glywed eu barn am ddwy agwedd allweddol ar y Bil: diogelu oedolion a llais a rheolaeth.

Ffurfiodd nifer o sefydliadau’r trydydd sector a sefydliadau proffesiynol grŵp cynghori ar y Bil a oedd yn bwydo safbwyntiau i’r Pwyllgor.

Cynhaliodd Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc y Cynulliad ddwy sesiwn dystiolaeth ym mis Ebrill 2013 i graffu ar elfennau o’r Bil sy’n effeithio ar blant a phobl ifanc.

Mae’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi gorffen ei waith craffu Cyfnod 1 ar y Bil sy’n edrych ar yr egwyddorion cyffredinol, a bydd yn ystyried gwelliannau yng Nghyfnod 2 o’r broses yn yr hydref.  Bydd yn cyhoeddi adroddiad Cyfnod 1 ar 19 Gorffennaf.

Mae peth ffordd i fynd eto cyn i’r Bil ddod yn gyfraith, ond y gobaith yw y bydd yn rhoi’r sylfaen i wasanaethau cymdeithasol ateb heriau o ran darparu gwell gwasanaethau yn wyneb galw cynyddol, disgwyliadau uwch a’r wasgfa ariannol bresennol.


Erthygl gan Stephen Boyce, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru.