Ymateb Lloegr i ddatganoli: Adroddiad Comisiwn McKay

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Sefydlwyd y Comisiwn ar Oblygiadau Datganoli i Dŷ’r Cyffredin neu ‘Comisiwn McKay’ ym mis Ionawr 2012 i ystyried sut y gallai Tŷ’r Cyffredin ymdrin â deddfwriaeth sydd ond yn effeithio ar ran o’r Deyrnas Unedig, ar ôl i rai pwerau deddfwriaethol gael eu datganoli i Senedd yr Alban, Cynulliad Gogledd Iwerddon a Chynulliad Cenedlaethol Cymru.

Roedd modd felly i’r Comisiwn fynd i’r afael â materion a oedd yn codi o ‘Gwestiwn Gorllewin Lothian’. Yn gyffredinol, mae hyn yn cyfeirio at Aelodau Seneddol o rannau datganoledig y DU yn pleidleisio ar faterion Lloegr, er nad yw Aelodau Seneddol o Loegr yn cael unrhyw effaith gyfatebol ar gyfreithiau y tu allan i Loegr mewn meysydd polisi y mae’r sefydliadau datganoledig bellach yn gyfrifol amdanynt.

Hefyd, roedd cylch gorchwyl y Comisiwn yn caniatáu iddo ystyried ‘Cwestiwn Lloegr’, sy’n ymwneud â chyfres ehangach o bryderon ynglŷn â sefydlogrwydd a chydbwysedd cyffredinol cyfansoddiad tiriogaethol y DU. Mae ‘Cwestiwn Lloegr’ yn deillio o anghysondebau canfyddedig yn nhrefniadau cyfansoddiadol presennol y DU a grëwyd gan y broses ddatganoli, ac a gaiff eu hystyried yn annheg i bobl Lloegr yn arbennig. Yn benodol, mae esblygiad y trefniadau llywodraethu yn y cenhedloedd datganoledig wedi arwain at gynnydd yn nifer y Deddfau ar gyfer Lloegr yn unig, er nad yw Tŷ’r Cyffredin wedi addasu’r strwythurau sydd ganddo yng nghyswllt gwneud deddfau i Loegr o’u cymharu â’r strwythurau a oedd ar waith cyn cyfnod datganoli.  Mae hyn, yn ei dro, wedi arwain at bryderon nad oes gan fuddiannau Lloegr eu llais gwleidyddol eu hun, sydd wedi’i atgyfnerthu yn ddiweddar gan arolygon agweddau cyhoeddus a gynhelir gan y Sefydliad Ymchwil Polisi Cyhoeddus a’r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Gwaith Ymchwil Cymdeithasol.

Argymhellodd yr adroddiad amrywiaeth o awgrymiadau, argymhellion a chasgliadau ar sut dylai Tŷ’r Cyffredin newid mewn ymateb i ddatganoli. Maent yn cynnwys:

Dylid datblygu proses ddeddfu sy’n benodol i Loegr ar sail egwyddor gyfansoddiadol y dylai penderfyniadau ar lefel y DU sy’n cael effaith ar wahân a phenodol ar Loegr (neu ar ‘Gymru a Lloegr’) fel rheol dim ond os yw mwyafrif o Aelodau Seneddol etholaethau Lloegr (neu ‘Gymru a Lloegr’) wedi cydsynio. Fodd bynnag, nid yw hyn yn golygu cyfundrefn a fyddai’n sicrhau mai dim ond pleidleisiau Lloegr sy’n berthnasol i gyfreithiau Lloegr, gan fod yr adroddiad yn dod i’r casgliad na ddylai Aelodau Seneddol o’r tu allan i Loegr gael eu rhwystro rhag pleidleisio ar faterion sydd gerbron Tŷ’r Cyffredin.

Dylid gwneud gwelliant ymarferol i symleiddio’r modd y caiff Tŷ’r Cyffredin ei hysbysu am gydsyniad, neu ddiffyg cydsyniad, corff datganoledig i Gynnig Cydsyniad Deddfwriaethol.

Dylid sefydlu Pwyllgor Datganoli Tŷ’r Cyffredin i adrodd i’r Tŷ ar amgylchiadau sy’n codi o ddatblygu proses ddeddfwriaethol sy’n benodol i Loegr a chyfeirio at Gynigion Cydsyniad Deddfwriaethol gan y deddfwrfeydd datganoledig i ddod â hwy i sylw’r Tŷ.

Er gwaethaf ymatebion cymysg i’r cyhoeddiad, mae adroddiad y Comisiwn yn arwyddocaol gan ei fod yn crynhoi’r modd y mae Lloegr yn datblygu ac yn dod yn fwy o endid gwleidyddol mewn ymateb i ddatganoli, ac mae’n bosibl y bydd yn garreg filltir bwysig mewn dadleuon ar ddyfodol cyfansoddiadol y DU.

Gellir cael rhagor o wybodaeth am adroddiad Comisiwn McKay ym Mhapur y Gwasanaeth Ymchwil: Ymateb Lloegr i ddatganoli: Adroddiad Comisiwn McKay.


Erthygl gan Owain Roberts, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru