Araith y Frenhines 2013 a Bil drafft Cymru

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Roedd Araith y Frenhines, a gafodd ei thraddodi ar 8 Mai 2013, yn cynnwys manylion am 18 Bil and dau Fil drafft y mae Llywodraeth y DU yn bwriadu eu cyflwyno yn ystod sesiwn seneddol 2013-14.

Yn amlwg, y brif stori i’r Cynulliad oedd ymrwymiad Llywodraeth y DU i gyflwyno Bil drafft Cymru a fydd yn cynnwys darpariaethau mewn perthynas â:

  • Newid trefn tymhorau’r Cynulliad o dymhorau sefydlog pedair blynnedd i dymhorau sefydlog pum mlynnedd, a hynny er mwyn lleihau’r tebygolrwydd y bydd etholiadau’r Cynulliad yn gwrthdaro ag etholiadau Seneddol;
  • Gwrthdroi’r gwaharddiad ar ymgeisio deuol er mwyn caniatáu i ymgeiswyr mewn etholiadau Cynulliad gystadlu am sedd etholaeth a sefyll ar restr ranbarthol; a
  • Gwahardd yr ymarfer o gyflawni dwy swydd, gan wahardd Aelodau’r Cynulliad rhag bod yn Aelodau Seneddol.

Mae Biliau drafft yn San Steffan yn cael eu cyhoeddi gan yr adrannau sy’n eu noddi (Swyddfa Cymru yn yr achos hwn). Yn achlysurol, gallant fod yn destun craffu cyn deddfu mewn un o bwyllgorau dethol Tŷ’r Cyffredin neu un o gyd-bwyllgorau Tŷ’r Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi. Er enghraifft, roedd Bil drafft Gogledd Iwerddon (Darpariaethau Amrywiol) yn destun craffu cyn deddfu ym Mhwyllgor Materion Gogledd Iwerddon yn Nhŷ’r Cyffredin rhwng mis Chwefror a mis Mawrth 2013.

Mae Bil drafft Cymru’n dilyn ymgynghoriad Papur Gwyrdd a gynhaliwyd gan Swyddfa Cymru rhwng mis Mai a mis Awst y llynedd ar drefniadau etholiadol y Cynulliad ar gyfer y dyfodol. Yn ogystal â’r cynigion sy’n debygol o gael eu cynnwys yn y Bil drafft, roedd y Papur Gwyrdd hefyd yn ymgynghori ar gynigon a oedd yn ymwneud â newidiadau i drefn etholaethol y Cynulliad, yn sgil y cynllun arfaethedig i leihau nifer yr Aelodau Seneddol o Gymru o 40 i 30 cyn etholiad cyffredinol nesaf y DU. Fodd bynnag, yn dilyn y penderfyniad i ohirio’r adolygiad nesaf a gynhelir o etholaethau’r Senedd tan 2018, cadarnhaodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru ym mis Mawrth 2013 na fyddai Llywodraeth y DU yn bwrw ymlaen â’r newidiadau arfaethedig i etholaethau’r Cynulliad yn ystod tymor presennol y Senedd.

O ran y Biliau eraill a gafodd eu cynnwys, mae’r rhan fwyaf ohonynt yn berthnasol i Gymru, ond dim ond llond llaw ohonynt sy’n debygol o wneud darpariaethau mewn meysydd datganoledig. Yr amlycaf o’r rhain yw’r  Bil dŵr, a fydd yn ceisio diwygio’r sector dŵr drwy ehangu’r dewis sydd ar gael mewn marchnadoedd manwerthu – darpariaeth sy’n debygol o ennyn gwrthwynebiad Llywodraeth Cymru, sydd eisoes wedi datgan yn gyhoeddus ei bod yn gwrthwynebu camau i gyflwyno cystadleuaeth i’r sector dŵr. O gofio pwerau deddfu’r Cynulliad yn y maes hwn, disgwylir Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol cyn gynted ag y bydd y Bil yn cael ei gyflwyno yn y Senedd.

Mae’r Bil Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona yn Fil arall sy’n debygol o angen cydsyniad y Cynulliad. Er y bydd yn cynnwys nifer o ddarpariaethau a fydd yn ymwneud â materion a gedwir yn ôl, bydd y Bil hefyd yn cynnwys darpariaethau sy’n ymwneud â chŵn peryglus, sef darpariaethau sy’n berthnasol i bwerau’r Cynulliad i ddeddfu ym maes lles anifeiliaid. Roedd Llywodraeth Cymru wedi bwriadu dwyn ymlaen ei deddfwriaeth ei hun ar gŵn peryglus (ac roedd wedi ymgynghori ar Fil drafft, sef Bil Rheoli Cŵn (Cymru), at y dibenion hynny). Fodd bynnag, mae’r Llywodraeth yn awr wedi rhoi’r gorau i’r cynigion hynny ac wedi penderfynu ceisio cael darpariaethau i Gymru drwy Fil Llywodraeth y DU.

Mae’r Bil Mesothelioma yn Fil arall a allai fod o ddiddordeb i’r Cynulliad, o gofio’r Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru) a gyflwynwyd yn ddiweddar gan Mick Antoniw. Fodd bynnag, yn wahanol i Fil y Cynulliad, sef Bil nad yw’n ceisio creu unrhyw hawl gyfreithiol newydd i iawndal, mae Bil Llywodraeth y DU yn ceisio sefydlu cynllun taliadau i bobl sydd â ‘mesothelioma gwasgaredig’ (canser ar leinin yr ysgyfaint sy’n cael ei achosi gan ddod i gysylltiad ag asbestos) mewn achosion lle nad yw’n bosibl dod o hyd i’w cyflogwyr neu i gwmniau yswiriant atebolrwydd eu cyflogwyr.

Mae rhagor o wybodaeth am y Biliau a’r Biliau drafft sydd wedi’u cynnwys yn Araith y Frenhines ar gael ym mhapur y Gwasanaeth Ymchwil: Araith y Frenhines 2013.


Erthygl gan Owain Roberts, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru