Ffeithiau a Ffigurau am Ffermio yng Nghymru

26 Medi 2016

Erthygl gan Edward Armstrong, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Mae ffermio yng Nghymru yn rhannu rhai nodweddion tebyg â rhannau eraill o’r DU ond mae rhai nodweddion unigryw hefyd sydd yn cyfrif am faint a chymeriad y diwydiant. Mae’r nodweddion hyn wedi llunio a dylanwadu ar bolisi amaethyddol yng Nghymru ac maent yn debygol o fod yn bwysig wrth i’r sector a’r Llywodraeth ystyried polisïau yn y dyfodol a strategaethau i’r diwydiant wedi i’r DU adael yr UE.

Rydym wedi cyhoeddi nodyn ymchwil ar y diwydiant ffermio yng Nghymru sy’n rhoi cymhariaeth fanwl o’r diwydiant â gwledydd eraill yn y DU. Mae’r blog hwn yn tynnu sylw at y tebygrwydd a’r gwahaniaethau allweddol a nodwyd yn y Nodyn Ymchwil.

Beth yw effaith amaethyddiaeth ar gyflogaeth a gwerth ychwanegol gros yng Nghymru?

Roedd tua 647,700 o bobl yn gweithio yn sector amaethyddol y DU yn 2015, ac roedd 9% ohonynt (58,300) yng Nghymru. Cyfran amaethyddiaeth o gyfanswm cyflogaeth ranbarthol yng Nghymru oedd 4.07%, a oedd yn uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol o 1.42%. Mae hyn yn dangos bod amaethyddiaeth yn gwneud cyfraniad mwy sylweddol at gyflogaeth yng Nghymru nag mewn rhannau eraill o’r DU.

Mae gwerth ychwanegol gros ar brisiau sylfaenol yn mesur cyfraniad diwydiant neu sector at yr economi. Cyfran amaethyddiaeth o werth ychwanegol gros y DU oedd 0.61% yn 2014 a 0.71% yng Nghymru, sy’n dangos bod cyfraniad economaidd amaethyddiaeth yng Nghymru hefyd yn uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol.

Beth yw’r incwm fferm cyfartalog yng Nghymru?

Yr incwm fferm cyfartalog yw’r enillion i’r llafurlu di-dâl (ffermwyr, eu priod a phartneriaid) ac i’w holl gyfalaf a fuddsoddwyd yn y busnes fferm, gan gynnwys adeiladau a thir fferm. Yng Nghymru, yr incwm fferm cyfartalog yn 2014-15 oedd £29,000, sy’n llai nag yn Lloegr (£40,000) a’r DU (£35,000) yn ei chyfanrwydd.

Yn ôl Rhagolygon o Lefelau Incwm Fferm 2015-16 (Saesneg yn unig), bu gostyngiad yn yr incwm fferm cyfartalog yng Nghymru i £24,500 o’i gymharu â 2014-15, sy’n adlewyrchu’r gostyngiad yn y prisiau a delir i ffermwyr am eu cynnyrch. Roedd hyn yn arbennig o wir yn y sector llaeth, lle gwelwyd gostyngiad o 40-45% yng Nghymru a Lloegr a gostyngiad o bron 80% yng Ngogledd Iwerddon. I gael rhagor o wybodaeth am y gostyngiad mewn incwm ffermydd, gweler ein cofnod blog blaenorol.

Sut y defnyddir tir amaethyddol yng Nghymru?

Yng Nghymru y ceir 10% (1.753 miliwn hectar) o’r arwynebedd amaethyddol a ddefnyddir yn y DU a 9% (2.1 miliwn hectar) o’r màs tir. Defnyddir tua 84% o’r arwynebedd tir ar gyfer amaethyddiaeth, sy’n fwy nag yn y gwledydd datganoledig eraill. Glaswelltir pori parhaol yw’r defnydd tir mwyaf o dipyn, gan gyfrif am fwy na 75% o’r arwynebedd a ddefnyddir, wedyn 14% ar gyfer tir cnydau a 10% ar gyfer tir pori garw cyffredin.

Mae tua 80% o’r arwynebedd tir wedi’i ddynodi fel ardal lai ffafriol (ALFf), h.y. lle mae amodau cynhyrchu yn anodd, fel ardaloedd lle mae cyflwr y tir, yr hinsawdd a’r amgylchiadau tyfu yn wael.

Faint o ddaliadau fferm sy’n bodoli?

Yn ôl Agriculture in the UK 2015, roedd tua 214,500 o ddaliadau fferm yn y DU yn 2015, ac roedd 16.2% (34,800) ohonynt yng Nghymru. Maint cyfartalog daliadau yng Nghymru oedd 48 hectar, a oedd yn llai nag yn Lloegr (88 hectar) a’r Alban (107 hectar).

Mae ffigur 1 yn dangos dadansoddiad manwl o ddaliadau fferm yn ôl math yng Nghymru. Mae pori gwartheg a defaid ar dir ALFf yn cyfrif am oddeutu 29% (10,805) o ddaliadau yng Nghymru, sy’n adlewyrchu pa mor bwysig yw glaswelltir pori ar dir ALFf. Ar y llaw arall, mae grawnfwydydd, cnydau cyffredinol a garddwriaeth yn cyfrif am 2.7% (972) o ddaliadau at ei gilydd, sy’n adlewyrchu’r arwynebedd cymharol fach sydd ar gael ar gyfer cnydau.

Daliadau fferm yn ôl math yng Nghymru

Ffynhonnell: Arolwg Amaethyddol Cymru mis Mehefin. Ffeithiau a Ffigurau Ffermio Cymru, 2016.

Y casgliad

Mae amaethyddiaeth yng Nghymru yn canolbwyntio’n helaeth ar bori da byw, yn enwedig defaid, ar dir ALFf ar ddaliadau fferm cymharol fach sy’n ennill lefelau incwm cymharol fach.

Mae nifer o ffactorau’n dylanwadu ar batrwm ffermio yng Nghymru, a dyma rai o’r rhai pwysicaf:

  • Mae Cymru yn fwy mynyddig ac mae ganddi hinsawdd wlypach na llawer o’r DU, felly mae cyfran fawr o’r wlad yn cael ei chyfrif yn ALFf. Felly, mae’r tir yn fwy addas ar gyfer ffermio pori a da byw ac nid tyfu cnydau âr.
  • Mae’r ucheldiroedd helaeth yn fwy ffafriol tuag at ddefaid, yn enwedig defaid mynydd Cymreig gwydn.
  • Mae’r diwydiant llaeth a ffermio âr yn gyfyngedig i ardaloedd sy’n fwy cynhyrchiol o ran daearyddiaeth a hinsawdd. Mae’r rhain yn bennaf mewn ardaloedd tir isel yn y de-orllewin, y de-ddwyrain, y gogledd-ddwyrain, ardaloedd arfordirol a chymoedd afonydd.

Siarter Ddrafft y BBC: Beth y mae hyn yn ei olygu i Gymru?

23 Medi 2016

Erthygl gan Robin Wilkinson, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Bwriad yr erthygl hon yw llywio ac ategu’r ddadl sydd wedi’i threfnu ar gyfer y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 27 Medi 2016.

Yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd Adran Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon Llywodraeth y DU Siarter Ddrafft y BBC. Siarter y BBC yw sail gyfansoddiadol y gorfforaeth: mae’n nodi’n fras sut y dylai’r BBC gael ei threfnu a beth y dylai ei wneud. Ymhelaethir ar y gofynion hyn mewn Cytundeb rhwng y BBC a Llywodraeth y DU, y cyhoeddwyd drafft ohono ochr yn ochr â’r Siarter Ddrafft. Bwriedir i’r Siarter Ddrafft fod yn weithredol o 1 Ionawr 2017 tan 31 Rhagfyr 2027.

Busnes blaenorol y Cynulliad: A yw’r BBC yn gwneud digon i Gymru?

Tua diwedd y Cynulliad diwethaf, cynhaliodd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol (CELG) ymchwiliad i sut y dylai Siarter y BBC adlewyrchu buddiannau Cymru. Dyma rai o’r pryderon allweddol a godwyd gan y Pwyllgor:

  • Roedd gwariant BBC Cymru Wales ar gynnyrch teledu cyfrwng Saesneg ar gyfer cynulleidfaoedd yng Nghymru rhwng 2006-7 a 2014-15 wedi gostwng o £24.6 miliwn i £20.8 miliwn, sef gostyngiad o tua 30 y cant mewn termau real.
  • Ers tua 2006, mae gwariant rhwydwaith y BBC yng Nghymru wedi cynyddu i’r graddau fod Cymru wedi ennill 7.8 y cant – neu £59.1 miliwn – o wariant y BBC yn y DU ar y rhwydwaith deledu, sy’n fwy na’i chyfran o’r boblogaeth, sef 4.9 y cant. Er eu bod yn croesawu’r gwariant hwn yng Nghymru, roedd y Pwyllgor o’r un farn â’r rhanddeiliaid nad oedd y rhaglenni rhwydwaith a gynhyrchwyd gyda’r arian hwn yn gwneud llawer i ymdrin â materion sy’n effeithio ar Gymru yn benodol.

Dyma ffeithlun yn dangos gwariant BBC Cymru.

Gwnaeth y Pwyllgor nifer o awgrymiadau ynghylch sut y gellid gwella gweithgareddau’r BBC i’w gwneud yn fwy perthnasol i Gymru. Roedd y rhain yn cynnwys:

  • Cymeradwyodd y Pwyllgor alwadau gan Lywodraeth Cymru a’r Sefydliad Materion Cymreig i’r BBC fuddsoddi £30 miliwn yn ychwanegol yn y gwasanaethau a ddarperir ar gyfer Cymru.
  • Dylai’r BBC ddatganoli ei drefniadau comisiynu fel bod mwy o benderfyniadau pwysig yn cael eu gwneud yng Nghymru.
  • Dylai’r BBC osod targedau i’w hun ar gyfer portreadu Cymru yn ei chynyrchiadau rhwydwaith, a chyflwyno adroddiad ar hynny’n flynyddol.

Roedd pryderon y Pwyllgor yn glir: nid yw’r BBC yn gwario digon o arian ar gynyrchiadau Cymreig, nac yn cynhyrchu digon o raglenni sydd â blas unigryw Cymreig. Ers hynny, mae llawer o safbwyntiau’r Pwyllgor wedi cael eu mynegi yn yr adroddiadau a ganlyn:

I ba raddau y mae’r Siarter Ddrafft a’r Cytundeb Drafft sy’n cyd-fynd â hi yn rhoi sylw i’r pryderon hyn?

Y Siarter Drafft: a yw’n mynd i’r afael â phryderon y Pwyllgor?

Mae’r prif bwyntiau i Gymru yn y Siarter a’r Cytundeb Drafft yn cynnwys:

  • Diben cyhoeddus cryfach, sy’n nodi bod yn rhaid i’r BBC: “reflect, represent and serve the diverse communities of all of the UK’s nations and regions and, in doing so, support the creative economy across the UK”.
  • Cafodd trefniadau atebolrwydd rhwng y BBC, Llywodraeth Cymru a Chynulliad Cenedlaethol Cymru eu sefydlu mewn Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth yn gynharach eleni. Cafodd y rhain eu hategu yn y Siarter Ddrafft, sy’n nodi bod yn rhaid i’r BBC gydymffurfio â cheisiadau i roi tystiolaeth neu gyflwyno adroddiadau i bwyllgorau’r Cynulliad fel ag y maent yn ei wneud i bwyllgorau dau Dŷ’r Senedd. Mae’n rhaid ymgynghori â Llywodraeth Cymru os caiff y Siarter ei hadolygu neu ei hadnewyddu.
  • Mae’n rhaid i gynllun, adroddiad a chyfrifon blynyddol y BBC gynnwys manylion am y ddarpariaeth ar gyfer gwledydd a rhanbarthau’r DU.
  • Bydd gan Fwrdd newydd y BBC – a fydd yn llywodraethu’r BBC – gyfarwyddwr anweithredol o Gymru, a bydd Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn cytuno ar ei benodiad.
  • Mae gan Ofcom rôl newydd wrth reoleiddio’r BBC, gan gynnwys sicrhau bod cynulleidfaoedd yn y gwledydd unigol yn cael eu gwasanaethu’n dda. Mae’n rhaid i Ofcom sicrhau y darperir allbwn a gwasanaethau mwy nodweddiadol ar y BBC. Gellid dehongli bod hynny’n golygu creu rhaglenni sy’n ymwneud yn benodol â chenhedloedd neu ranbarthau penodol.
  • Yn ogystal â rheoleiddio’r cynnwys, bydd Ofcom yn gyfrifol am sicrhau bod cyfran addas o raglenni rhwydwaith yn cael eu cynhyrchu y tu allan i Lundain, gan gynnwys ym mhob un o wledydd y DU. Yn 2006, gosododd y BBC darged i fuddsoddi 17 y cant o’i gwariant cyffredinol ar y rhwydwaith yn y gwledydd datganoledig, sy’n cyd-fynd yn fras â maint poblogaeth y gwledydd hynny gyda’i gilydd: rhagorwyd ar y targed hwnnw yng Nghymru. Nid yw Llywodraeth y DU yn bwriadu lleihau’r targed gofynnol hwn.

Mae’r darpariaethau hyn yn awgrymu y gallai fod rhaglenni ar y BBC sy’n fwy nodweddiadol o safbwynt rhanbarthol a chenedlaethol yng nghyfnod y Siarter nesaf, gan gynnwys rhaglenni i gynulleidfaoedd yng Nghymru: yn dibynnu ar y graddau y bydd cyllid a chamau gweithredu’r gorfforaeth yn cyd-fynd â’r darpariaethau hyn.

Fodd bynnag, cyhoeddodd BBC Cymru yn ddiweddar y byddai angen i’r sefydliad arbed £9 miliwn y flwyddyn erbyn 2022 er mwyn ymdopi â’r cytundeb ar gyfer ffi’r drwydded lle nad yw’r pris yn newid. Dywedodd Rhodri Talfan Davies, Cyfarwyddwr BBC Cymru, wrth staff ei fod yn gobeithio cyfyngu ar y toriadau mewn meysydd cynnwys i tua £3 miliwn dros 5 mlynedd, a chyfeirio unrhyw fuddsoddiad newydd at wasanaethau teledu Saesneg.

Roedd Mr Talfan Davies wedi nodi’n flaenorol bod rheolwyr y BBC yn barod i wrando ar geisiadau gan Lywodraeth Cymru ac eraill am gyllid ychwanegol i BBC Cymru, ond amser a ddengys a fydd y parodrwydd hynny’n arwain at arian ychwanegol.

Beth am S4C?

Ers 2013, mae’r rhan fwyaf o gyllid S4C wedi dod o ffi drwydded y BBC. Cyn hynny, daeth cyllid y sianel o Adran Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon Llywodraeth y DU, sy’n parhau i ddarparu grant bach.

Yn 2011-12, cafodd S4C £101 miliwn gan yr Adran Diwylliant. Yn 2014-15, lleihawyd ei chyllideb i tua £82 miliwn. Yn ôl y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol, mae’r gostyngiad o 36 y cant mewn termau real yng nghyllid S4C ers 2010 wedi bod yn ddifrifol ac yn anghymesur. Mae Cytundeb Drafft y BBC yn nodi y bydd S4C yn cael £74.5 miliwn o ffi’r drwydded bob blwyddyn tan 2020-21.

Mae Llywodraeth y DU yn bwriadu cynnal adolygiad o S4C yn 2017, i ystyried ei threfniadau ariannu, ei chylch gwaith ac atebolrwydd.

Barn Llywodraeth Cymru

Wrth roi tystiolaeth yr wythnos diwethaf i Bwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu’r Cynulliad, nododd Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Alun Davies AC (sy’n gyfrifol am bolisi darlledu Llywodraeth Cymru), fod Llywodraeth Cymru yn cytuno’n gyffredinol â gwaith y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ar Siarter y BBC. Dywedodd fod cytundeb  rhwng y BBC ac S4C yn ‘aeddfed’, gan nodi y byddai mwy o gyllid ar gyfer y BBC ac S4C yn cael ei groesawu. Nododd y bydd yn cyfarfod â’r Ysgrifennydd Gwladol yr wythnos nesaf i drafod y Siarter Ddrafft.

Yn ôl pob tebyg, daw’r manylion am farn Llywodraeth Cymru yn gliriach ddydd Mawrth 27 Medi pan fydd y Cynulliad yn trafod y Siarter Ddrafft yn y Cyfarfod Llawn.

 

Cyllido addysg uwch

21 Medi 2016

Erthygl gan Anne Thomas, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn wreiddiol ar 1 Mehefin 2016 ond fe’i diweddarwyd yn barod at ddatganiad Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn y Cyfarfod Llawn a drefnwyd ar gyfer dydd Mawrth 27 Medi 2016.

Sut fydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod addysg uwch yn fforddiadwy i fyfyrwyr o Gymru, ac ar yr un pryd yn ariannu sector addysg uwch cryf a chystadleuol?

Llun o fyfyrwyr sydd newydd raddio.

Llun o Flickr gan Kevin Saff. Dan drwydded Creative Commons.

A yw hi’n bosibl ariannu sector addysg uwch cryf ar y naill law, a chynnal y gyfundrefn bresennol sy’n rhoi cyllid i fyfyrwyr ar y llall, pan mai dim ond hyn a hyn o arian sydd ar gael?

Yn 2012, cododd ffioedd dysgu blynyddol yn Lloegr i uchafswm o £9,000. Ymatebodd Llywodraeth flaenorol Cymru drwy ganiatáu i brifysgolion yng Nghymru godi eu ffioedd dysgu ar gyfer cyrsiau israddedig amser llawn i lefel debyg.

Fodd bynnag, pryderai Llywodraeth flaenorol Cymru y byddai’r ffioedd uwch yn rhwystr i ddarpar fyfyrwyr, yn enwedig rhai o ardaloedd difreintiedig. Oherwydd hyn, ymrwymodd na fyddai unrhyw fyfyriwr israddedig amser llawn yng Nghymru yn talu ffioedd uwch (mewn termau real) yn ystod y Pedwerydd Cynulliad na myfyrwyr yn 2010/11. Dyma oedd y sefyllfa ble bynnag y byddai myfyrwyr o Gymru’n dewis astudio yn y DU.

Beth oedd y polisi yn y Pedwerydd Cynulliad?

Er mwyn cadw’r addewid hwn, penderfynodd Llywodraeth flaenorol Cymru gynnig Grant Ffioedd Dysgu i fyfyrwyr sy’n hanu o Gymru. Dim ond rhan o’r ffioedd dysgu uwch newydd y byddai’n rhaid iddynt ei dalu, a byddai Llywodraeth Cymru yn talu’r gweddill. Roedd gan fyfyrwyr cymwys (gan gynnwys myfyrwyr yr UE yng Nghymru):

  • hawl i gael Grant Ffioedd Dysgu newydd nad oedd yn ad-daladwy (hyd at £5,190 yn 2015/16); a
  • hawl i wneud cais am fenthyciad ffioedd dysgu myfyrwyr ad-daladwy (£3,810 yn 2015/16).

Mae tua 57,000 o fyfyrwyr yn elwa ar y polisi hwn bob blwyddyn. Fodd bynnag, mae rhai yn beirniadu’r polisi, gan honni bod ariannu’r Grant Ffioedd Dysgu yn dwyn adnoddau oddi wrth rannau eraill o’r sector addysg uwch neu oddi wrth bolisïau a blaenoriaethau eraill. Mae Llywodraeth Cymru yn amcangyfrif mai:

  • cost y polisi yn 2015-16 fydd tua £241 miliwn, gan gynyddu i tua £257 miliwn yn 2016-17 (sef 16% o gyfanswm y gyllideb addysg a sgiliau);
  • cyfanswm cost y polisi dros bum mlynedd fydd £887 miliwn (2012-13 i 2016-17); ac
  • o’r £887 miliwn, bydd £564 miliwn (64%) yn cael ei dalu i sefydliadau addysg uwch yng Nghymru a £324 miliwn (36%) yn cael ei dalu i sefydliadau addysg uwch mewn rhannau eraill o’r DU.Bydd angen i Lywodraeth newydd Cymru benderfynu felly ai hwn yw’r defnydd mwyaf effeithiol o £257 miliwn y flwyddyn.
  • O wynebu cyhuddiadau bod y polisi i bob pwrpas yn rhoi cymhorthdal i addysg uwch yn Lloegr, ymateb Llywodraeth flaenorol Cymru oedd bod mwy o fyfyrwyr yn dod i Gymru nag sy’n mynd oddi yma. O ganlyniad, mae £50 miliwn yn fwy o gyllid yn dod i’r sector addysg uwch yng Nghymru bob blwyddyn (drwy ffioedd dysgu myfyrwyr o rannau eraill o’r DU) na’r hyn sy’n cael ei dalu allan (drwy’r Grant Ffioedd Dysgu i sefydliadau addysg uwch y tu allan i Gymru).

Beth yw barn rhanddeiliaid a myfyrwyr?

Ym mis Ebrill 2014, gofynnodd Huw Lewis, y Gweinidog Addysg a Sgiliau ar y pryd, i’r Athro Syr Ian Diamond gadeirio panel adolygu annibynnol i edrych ar drefniadau cyllido addysg uwch a chyllid myfyrwyr.

Mae Adroddiad INTERIM Adolygiad Diamond (Rhagfyr 2015) yn crynhoi’r dystiolaeth a gasglwyd ac yn amlinellu’r themâu a’r negeseuon a ddaeth i’r amlwg er mwyn i Lywodraeth nesaf Cymru eu hystyried. Er enghraifft:

  • mae’r rhan fwyaf o bobl yn credu nad oes modd cynnal y sefyllfa fel ag y mae;
  • ar y cyfan, mae diffyg consensws o ran y ffordd ymlaen. Mae’r rhan fwyaf o bobl yn cydnabod y bydd angen gwneud penderfyniadau anodd;
  • er y byddai’r sector ei hun yn gwadu hyn, mae llawer yn credu bod y sector addysg uwch yng Nghymru wedi elwa o gynnydd net mewn incwm ers cyflwyno’r ffioedd presennol a’r gyfundrefn ariannu. Ond nid yw’r cynnydd mor uchel â’r hyn a ragwelwyd ac mae cryn wahaniaethau yn lefel y newid yn incwm gwahanol sefydliadau;
  • mae pryder, yn enwedig yn y sector addysg uwch, fod bwlch cyllido mawr a chynyddol rhwng addysg uwch yng Nghymru a rhannau eraill o’r DU;
  • mae myfyrwyr sy’n hanu o Gymru yn elwa o fod â llai o ddyled ar ôl gadael y brifysgol o’u cymharu â myfyrwyr sy’n hanu o Loegr; ac
  • nid yw’r cymorth cynhaliaeth sydd ar gael yn ddigon i dalu costau cychwynnol myfyrwyr, ac mae hynny’n fwy o broblem i fyfyrwyr nag ad-dalu eu benthyciad ffioedd dysgu ar ôl iddynt ddechrau gweithio.

Beth am gyllido cyrsiau addysg uwch rhan-amser?

Mae proffil myfyrwyr addysg uwch rhan-amser yn dra gwahanol i broffil myfyrwyr amser llawn. Mae Llywodraeth Cymru wedi gohirio gwneud penderfyniad hirdymor ar gyllido darpariaeth addysg uwch rhan-amser, yn rhannol gan i nifer y myfyrwyr rhan-amser yn Lloegr ostwng yn sylweddol ar ôl cyflwyno system fenthyciadau a ffioedd uwch ar eu cyfer.

Cafodd adroddiad a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru ar y trefniadau ar gyfer myfyrwyr rhan-amser ei gyhoeddi ochr yn ochr ag Adroddiad Interim Adolygiad Diamond. Mae cytundeb cyffredinol bod angen strategaeth gyllido ar wahân ar gyfer y sector rhan-amser cyn gynted â phosibl.

Beth sy’n debygol o ddigwydd yn y Pumed Cynulliad?

Mae panel adolygu’r Athro Syr Ian Diamond wedi cyflwyno ei adroddiad i Lywodraeth Cymru. Gofynnwyd iddo wneud argymhellion ymarferol, a rhai sy’n fforddiadwy ac yn gynaliadwy.

Disgwylir i Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, wneud Datganiad Llafar ddydd Mawrth 27 Medi ynghylch “Adolygiad Diamond o Drefniadau Cyllido Addysg Uwch a Chyllid Myfyrwyr yng Nghymru”. Bydd cryn ddiddordeb yn adroddiad terfynol ac argymhellion Adolygiad Diamond, nid yn unig ymhlith y sector addysg uwch a myfyrwyr ond hefyd ymhlith cyflogwyr, teuluoedd sydd â phlant iau, darparwyr hyfforddiant eraill a’r sector addysg ehangach.

Bydd cryn ddiddordeb yn ymateb Llywodraeth Cymru i’r adroddiad a’r argymhellion hefyd.

Ffynonellau allweddol

 

Diwygio’r cwricwlwm: Y Fframwaith Cymhwysedd Digidol

16 Medi 2016

Erthygl gan Joe Champion, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

bwlb golau ar wely o gerrig mân

Llun: o Flickr gan Camera Eye Photography. Dan drwydded Creative Commons.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi Fframwaith Cymhwysedd Digidol, yr agwedd gyntaf ar ddiwygio’r cwricwlwm yng Nghymru, i’w gyflwyno mewn ysgolion a lleoliadau addysgol eraill yng Nghymru. Mae’r Fframwaith wedi ei gynllunio i’w ddefnyddio gyda phob dysgwr rhwng 3 a 16 ac hŷn ac mae’n dilyn argymhelliad gan adolygiad yr Athro Graham Donaldson o’r cwricwlwm ac asesu.

Mae Llywodraeth Cymru yn diffinio cymhwysedd digidol fel:

set o sgiliau, gwybodaeth ac agweddau i alluogi’r defnydd hyderus, creadigol a beirniadol o dechnolegau a systemau. Dyma’r set sgiliau sy’n galluogi person i fod yn ddinesydd digidol hyderus, i ryngweithio a chydweithio yn ddigidol, i gynhyrchu gwaith yn ddigidol ac i fod yn hyderus wrth drin data a meddwl yn gyfrifiannol (datrys problemau).

Ni fwriedir i’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol ddisodli gwersi TGCh neu gyfrifiadureg mewn ysgolion ac mae’r rhaglenni astudio ar gyfer y pynciau hyn yn parhau. Bwriedir i’r Fframwaith fodoli ochr yn ochr â TGCh a chyfrifiadureg ac annog integreiddio sgiliau digidol ar draws yr ystod lawn o wersi. Gelwir hyn yn ‘Gyfrifoldeb Traws-gwricwlaidd’, gyda chymhwysedd digidol yr un mor bwysig â llythrennedd a rhifedd.

Er bod y Fframwaith Cymhwysedd Digidol yn awr ar gael i’r ysgolion hynny sydd am ei fabwysiadu, nid dyma’r fersiwn derfynol. Mae Llywodraeth Cymru wedi ei ryddhau yn awr er mwyn i ysgolion, a sefydliadau addysgol eraill, ymgyfarwyddo ag ef a dechrau datblygu gweledigaeth ar gyfer sut y gellir ei integreiddio’n llawn ar draws eu cwricwlwm yn y dyfodol. Disgwylir y bydd y Fframwaith yn cael ei gwblhau a’i ddefnyddio ledled Cymru o 2021.

Pam mae’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol yn cael ei gyflwyno?

Cafodd y cysyniad o fframwaith ar gyfer sgiliau digidol ei nodi gyntaf mewn adroddiad, a gyhoeddwyd yn 2014, gan y Grŵp Llywio TGCh i Lywodraeth Cymru. Argymhellodd yr adroddiad:

Dylai Fframwaith Llythrennedd Digidol Statudol gael ei roi ar waith i weithio ochr yn ochr â’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd o’r Cyfnod Sylfaen hyd at addysg ôl-16.

Cafodd yr argymhelliad hwn ei adolygu a’i drafod gan yr Athro Donaldson yn ei adolygiad annibynnol o drefniadau cwricwlwm ac asesu yng Nghymru,  a adroddodd ym mis Mawrth2015. Cyhoeddom gyfres o erthyglau ar y blog hwn ar y pryd yn esbonio casgliadau’r adolygiad.

Canfu’r Athro Donaldson fod cymhwysedd digidol yn ‘fwyfwy hanfodol i ddysgu a bywyd’. Ailadroddodd y galwadau i roi ‘statws tebyg o fewn y cwricwlwm i hynny sydd gan lythrennedd a rhifedd’ i sgiliau digidol.

Yn hynny o beth, mae’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol wedi’i fodelu ar y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol (FfLlRh). Daeth y FfLlRh yn statudol ym mis Medi 2013, ac mae wedi cael ei ymgorffori’n ffurfiol yn y cwricwlwm presennol. Mae’n debygol o gael ei ddisodli wrth i weddill argymhellion yr Athro Donaldson ddod i rym.

Cafodd datblygiad y Fframwaith, a chanfyddiadau ehangach Adolygiad Donaldson eu croesawu yn gyffredinol gan holl bleidiau gwleidyddol y Pedwerydd Cynulliad, yn ogystal ag arweinwyr o’r sector addysg. Yn fwy diweddar, nododd Comisiynydd Plant Cymru ei bod yn cymeradwyo’r Fframwaith, a’i botensial i helpu plant i lywio trwy fyd y cyfryngau cymdeithasol yn ddiogel, mewn cyfarfod o’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.

Sut cafodd y Fframwaith Cymhwysedd Digidol ei ddatblygu?

Ym mis Mehefin 2015, cyhoeddodd y Gweinidog dros Addysg a Sgiliau, Huw Lewis, y byddai fframwaith cymhwysedd digidol ar gael o fis Medi 2016. Hon oedd un o agweddau cyntaf Adolygiad Donaldson i’w gweithredu gan Lywodraeth Cymru.

Cafodd y gwaith ymarferol o ddatblygu’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol ei wneud gan athrawon/ymarferwyr o Ysgolion Arloesi Digidol. Cyhoeddwyd yr Ysgolion Arloesi hyn ym mis Gorffennaf 2015, a maent

wedi’u gwasgaru ar draws Cymru ac yn cynrychioli’r goreuon o blith ein sectorau ysgolion cynradd, uwchradd ac arbennig. Byddant yn gweithio ar draws ysgolion cyfrwng Cymraeg a Saesneg er mwyn sicrhau ein bod yn creu fframwaith sy’n addas ar gyfer pob dysgwr.

Cafodd yr Ysgolion Arloesi eu cefnogi gan Lywodraeth Cymru, y consortia rhanbarthol, Estyn ac arbenigwyr allanol.

Pa gymorth sydd ar gael ar gyfer y rhai sy’n dymuno gweithredu’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol?

Nid yw Llywodraeth Cymru yn rhagweld unrhyw ymrwymiadau adnoddau sylweddol ar gyfer y rhai sy’n mabwysiadu’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol yn gynnar. Mae’r ffocws yn fwy ar ddatblygu hyder a chymhwysedd digidol ymarferwyr, yn hytrach nag ar galedwedd neu feddalwedd.

Mae yna (a bydd yna) nifer o ffynonellau cymorth ac arweiniad am ddim ac am gost isel i ymarferwyr sy’n dymuno gweithredu’r Fframwaith cyn 2021. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • arweiniad cychwynnol gan Lywodraeth Cymru
  • adnoddau digidol a byrddau trafod ar Hwb. Ychwanegir at y rhain o 2017;
  • cymorth gan y Rhwydwaith Arloeswyr Digidol, sydd ar hyn o bryd yn gweithio i ganfod y deunyddiau a fydd yn ddefnyddiol wrth gefnogi ysgolion ac athrawon/ymarferwyr i ddefnyddio’r Fframwaith;
  • bydd hyfforddiant a chymorth ar sut i roi’r cwricwlwm newydd ar waith yn cael ei ddarparu gan y Rhwydwaith Arloesi a’r consortia rhanbarthol. Er bod rhywfaint o gefnogaeth ar gael o fis Medi 2016, bydd y rhaglen hyfforddi lawn yn cael ei datblygu ar sail adborth a chanfyddiadau’r rhai sy’n mabwysiadu’r Fframwaith yn gynnar; a
  • bydd consortia rhanbarthol yn cynnal digwyddiadau i godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o’r Fframwaith.

Pa newidiadau eraill fydd yna i’r Cwricwlwm yng Nghymru?

Y Fframwaith Cymhwysedd Digidol yw cam cyntaf diwygio’r Cwricwlwm ysgolion yng Nghymru yn ehangach. Yn y dyfodol, bydd dysgu yn yr ysgol yn cael ei seilio ar chwe ‘Maes Dysgu a Phrofiad’. Y meysydd hyn yw:

  • Celfyddydau mynegiannol;
  • Iechyd a llesiant;
  • Dyniaethau (gan gynnwys Addysg Grefyddol, a ddylai barhau’n orfodol hyd at 16 oed);
  • Ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu (gan gynnwys Cymraeg, a ddylai barhau’n orfodol hyd at 16 oed, ac ieithoedd tramor modern);
  • Mathemateg a rhifedd; a
  • Gwyddoniaeth a Thechnoleg.

Bydd hefyd tri chyfrifoldeb traws-gwricwlaidd, y mae cymhwysedd digidol yn un ohonynt. Y ddau arall yw llythrennedd a rhifedd, sydd wedi bod yn flaenoriaethau i Lywodraeth Cymru ers 2010 pan osododd fwy o bwyslais ar wella ysgolion ac alinio llawer o’i pholisïau â Rhaglen Asesu Myfyrwyr (PISA) yr OECD. Bydd y tri chymhwysedd hyn yn cael eu hintegreiddio ar draws y chwe Maes Dysgu a Phrofiad.

Mae’r cwricwlwm newydd hwn yn cael ei ddatblygu a’i gynllunio ar hyn o bryd gan ysgolion arloesi’r cwricwlwm. Disgwylir y bydd y cwricwlwm newydd ar gael erbyn mis Medi 2018, gyda phob ysgol yn ei ddefnyddio o fis Medi 2021 ymlaen.

 

Cyhoeddiad Newydd: Papur briffio ar y farchnad lafur

14 Medi 2016

Erthygl gan Gareth Thomas a David Millett, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Mae’r papur briffio (PDF 1023, KB) misol hwn yn rhoi trosolwg ystadegol o’r farchnad lafur. Caiff gwybodaeth am etholaethau’r Cynulliad, Cymru a chenhedloedd y DU ei chynnwys.

Rydym yn cyhoeddi mapiau diweithdra rhyngweithiol sydd yn dangos nifer yr hawlwyr ar sail cartrefi, fesul etholaethau.

Dyma ein ffeithlun yn crynhoi ffigurau diweddaraf y farchnad lafur yng Nghymru.

unemployment-september-welsh-01